Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant
Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6.3 Rhyngblethedd

Mae amrywiaeth yn cynnwys pob hunaniaeth. Mae'n ymwneud â chynrychioli gwahaniaeth. Boed ydych yn adnabod eich hun yn ôl eich ethnigrwydd, eich crefydd, eich cyfeiriadedd rhywiol, neu unrhyw nodweddion eraill y gwnaethoch eu nodi yn y gweithgaredd diwethaf o bosibl, mae gennych nifer o hunaniaethau ac rydych yn rhan o nifer o gymunedau. Pam mae hyn yn bwysig yn y gweithle? Oherwydd bod pob hunaniaeth yn darparu unigolyn sydd â lefel gymharol o fraint dros unigolyn arall, neu dan anfantais mewn cymhariaeth ag unigolyn arall – golyga hyn fod gan bob unigolyn lefel benodol o fod dan anfantais mewn cymdeithas yn seiliedig ar ei hunaniaeth gydgyfeiriol.

Mae 'rhyngblethedd' (‘intersectionality’) yn derm a fathwyd gan yr Athro Kimberlé Crenshaw i ddisgrifio hyn. Gwyliwch y fideo drwy ddilyn y ddolen isod i ddysgu beth mae'n ei olygu a pha effaith y gall ei chael ar iechyd a llesiant.

Intersectionality and health explained [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (agorwch y ddolen mewn tab/ffenestr newydd er mwyn i chi allu dychwelyd yn rhwydd).