2.2 Y model PERMA
Diffinnir llesiant yn yr Oxford English Dictionary fel 'the state of being comfortable, healthy, or happy’. Wedi dweud hynny, mae'n bwysig sylweddoli bod llesiant yn gysyniad llawer ehangach na hapusrwydd o un foment i'r llall. Er ei fod yn cynnwys hapusrwydd, mae hefyd yn cynnwys pethau eraill, megis pa mor fodlon yw pobl gyda'u bywyd ar y cyfan, eu hymdeimlad o bwrpas a faint o reolaeth sydd ganddynt yn eu barn nhw.
Daw persbectif defnyddiol ar hyn gan y seicolegwr, addysgwr a'r awdur o America, Martin Seligman. Dangosodd ymchwil Seligman (2011) fod angen pum elfen graidd er mwyn i bobl gyflawni ymdeimlad iach o lesiant, cyflawniad a bodlonrwydd mewn bywyd. Galwodd hwn yn y model PERMA:
- Positive emotion (emosiwn cadarnhaol)
- Engagement (ymgysylltiad)
- Relationships (perthnasoedd)
- Meaning (ystyr)
- Achievement (llwyddiant).
Gweithgaredd 2 Adnabyddwch enghreifftiau o'r model PERMA
- Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am enghraifft yn y gweithle o bob un o elfennau'r model PERMA – e.e. beth oedd yr emosiwn cadarnhaol olaf i chi ei deimlo yn y gwaith, a pham; beth sy'n rhoi ystyr i'ch gwaith?
- Nawr, darllenwch yr erthygl fer hon (700 gair) yn trafod Positive Psychology in the Workplace [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] (Finkbeiner, 2022) gan y darparwr llesiant yn y gweithle, Zevo.
Sut oedd yr enghreifftiau y gwnaethoch chi feddwl amdanynt gymharu ag awgrymiadau Zevo? Noder fod awdur yr erthygl yn dweud bod gan gyflogwyr, rheolwyr ac arweinwyr rôl i'w chwarae yn hapusrwydd y gweithle. Bydd Adran 3 yn trafod hyn.