7.4 Gwneud mannau gweithio ar-lein yn hygyrch
Daeth Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 i rym fis Medi 2018, gan gyflwyno dyletswyddau ar gyrff y sector cyhoeddus – sy'n cynnwys y rhan fwyaf o sefydliadau Addysg Uwch – i sicrhau bod eu gwefannau yn bodloni safonau hygyrchedd cymeradwy, a chyhoeddi datganiad hygyrchedd ar bob gwefan i gadarnhau bod y safonau wedi'u bodloni. Roedd tri dyddiad allweddol i fodloni'r gofynion, y diweddaf oedd mis Gorffennaf 2021, felly mewn egwyddor dylai hyn fod yn ymarfer safonol yn eich sefydliad nawr.
Cynhyrchodd Jisc ganllaw Accessibility regulations – what you need to know [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ar gyfer colegau a phrifysgolion fis Rhagfyr 2019, a ddiweddarwyd mis Ionawr 2020. Os hoffech chi archwilio hynny yn eich amser eich hun, mae'n cymryd oddeutu 45 munud i'w ddarllen.
Os hoffech chi archwilio enghraifft o ddatganiad, gallwch weld Datganiad hygyrchedd ar gyfer OpenLearn.
Mae cwrs OpenLearn arall, Accessibility of eLearning, efallai y byddai gennych ddiddordeb yn ei astudio. Er ei fod wedi'i anelu at arbenigwr addysg sydd ynghlwm wrth ddatblygu deunyddiau dysgu ar-lein ar gyfer myfyrwyr, mae'n cynnwys deunydd mwy cyffredinol mewn perthynas ag anabledd, defnyddioldeb a hygyrchedd.
Gweithgaredd 18 Agweddau ar hygyrchedd ar-lein
Darllenwch bob un o'r adrannau byr o Hygyrchedd eDdysgu. Wrth i chi ddarllen, ystyriwch sut ellir eu defnyddio yn eich gweithle(oedd) ar-lein/rhithiol i wella profiad eich defnyddwyr a'ch cydweithwyr.
- ystyried pobl anabl
- defnyddioldeb a hygyrchedd
- adnoddau arbennig neu ddyluniad cyffredinol?
- opsiynau eraill i fysellfwrdd a llygoden
- cynnwys arall
- ffyrdd cyflym o wella hygyrchedd
Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.
Mae gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ddau adnodd Newid Syml yn ymwneud â gwella hygyrchedd ar-lein. Dilynwch y dolenni ym Mlwch 4 am ragor o wybodaeth.
Blwch 4 Newid Syml #77–78
Newid Syml #77 Defnyddio Cymraeg a Saesneg plaen yn arferol ymhob dogfen a fwriedir ar gyfer y cyhoedd.
Newid Syml #78 Defnyddio amrywiaeth o ddulliau a fformatau ymwneud hygyrch a chynhwysol.