5.3 Magu a chynnal perthnasoedd gwaith
Mae cysylltu â phobl yr ydych yn gweithio gyda nhw, boed ydych yn gydweithwyr llawn amser neu'n gyfranogwyr achlysurol, yn golygu eich bod yn gallu magu cysylltiad sy'n ysgogi eu diddordeb a'u hymgysylltiad. Yn aml, mae cyfathrebu yn gwasanaethu i ddau ddiben: cyfleu gwybodaeth a/neu swyddogaeth ryngbersonol. Mae'r swyddogaeth ryngbersonol yn ymwneud â magu hyder, ymddiriedaeth a pherthnasoedd ag eraill, sy'n agweddau allweddol ar fagu a chynnal perthnasoedd gweithio llwyddiannus.
Yr enw technegol ar siarad gwag yw 'cyfathrebu ffatig'. Er enghreifftiau, 'Helô, ti'n iawn?' neu sôn am y tywydd. Nid bwriad o ennyn ymatebion manwl yw'r cwestiynau neu'r sylwadau hyn, ond mae ganddynt bwrpas cymdeithasol. Mae agoriadau cyfathrebu ffatig mewn deialog yn bwysig i sefydlu ewyllys da, cydweithio a chydlynu pobl.
Nid yn unig mae cyfathrebu yn ymwneud â'r geiriau yr ydych chi'n eu defnyddio, ond hefyd y nodweddion paraieithyddol, megis cyflymder, sain, rhythm a thôn llais, ac mae'r rhain i gyd yn ychwanegu at yr ystyr.
Mae nodweddion cyfathrebu nad ydynt yn lleisiol yn cynnwys ystumiau, agosatrwydd a chyswllt llygaid. Mae'r rhain yn cyfrannu at gyfathrebu effeithiol.
Defnyddir ystumiau dwylo yn aml gan lefarwyr i ychwanegu at rythm eu lleferydd ac i roi pwyslais ar eiriau penodol. Gellir hefyd eu defnyddio i bwyntio tuag at i mewn er mwyn pwysleisio'r unigolyn cyntaf (h.y. 'fi', 'fy' neu 'yn bersonol') neu tuag at allan i'r rheini sy'n gwrando (h.y. 'chi').
Defnyddir ystumiau dwylo gan wrandawyr mewn deialog i ddangos eu bod yn gwrando.
Gallwch reoli'n rhannol y teimladau yr ydych yn eu dangos, ond gall fod yn anodd cuddio eich emosiynau dyfnaf – mae ein hwynebau yn dangos gwybodaeth wrth i nifer o fynegiadau bach gael eu hamlygu'n anwirfoddol ar draws ein hwyneb.
Mae hefyd yn bwysig ystyried gwahaniaethau diwylliannol wrth gyfathrebu. Mae cymdeithas amlddiwylliannol yn gofyn am ymwybyddiaeth o arddulliau cyfathrebu ar lafar ac yn gorfforol mewn diwylliannau gwahanol, a'r gallu a'r sensitifrwydd i barchu'r arddulliau hyn ac addasu eich dull o gyfathrebu yn briodol.
Gweithgaredd 11 Effaith hybrid ar gyfathrebu gyda chydweithwyr
Oherwydd y pandemig, mae nifer ohonom bellach yn gweithio gyda phobl nad ydym wedi eu cyfarfod wyneb yn wyneb, a gyda mwy o bobl o ddiwylliannau eraill. Gwyliwch y fideo gan y British Council.
Ffynhonnell: British Council ar YouTube [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]
Myfyriwch ar y fideo a meddyliwch am yr agweddau ar gyfathrebu a ddisgrifiwyd uchod. Os oes gennych fynediad at recordiad a wnaed o gyfarfod y gwnaethoch ei fynychu, ewch i'w wylio a meddyliwch am yr ymddygiadau a ddangoswyd gan y cyfranogwyr. Yna, ystyriwch sut y mae trefniadau gweithio hybrid neu weithio'n ddigidol yn unig wedi effeithio ar eich gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith, a ph'un a ydych wedi addasu'r ffordd rydych yn cyfathrebu, yn enwedig â phobl o ddiwylliannau eraill?
Cewch ysgrifennu nodiadau yn y blwch isod.