8.1.1 Cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru cyn datganoli
Mae arolygon hanesyddol o gynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru yn aml yn cyfeirio at gofnod ym mynegai argraffiad cynnar o Encyclopaedia Britannica, lle y nodwyd ‘for Wales, see England’. Mae'r ffaith bod modd cyfeirio at Gymru felly yn adlewyrchu ymgorffori llwyr y wlad ym mheirianwaith sefydliadol, cyfreithiol a gweinyddol gwladwriaeth Lloegr drwy ddeddfwriaeth yn 1536 a 1543 (y Deddfau Uno). Nododd Deddf Cymru a Berwick yn 1746 ‘in all cases where the Kingdom of England, or that part of Great Britain called England, hath been or shall be mentioned in any Act of Parliament, the same has been and shall henceforth be deemed and taken to comprehend and include the Dominion of Wales’ (Bogdanor, 1999, t. 144). Roedd y Ddeddf hon yn weithredol tan 1967.
Fodd bynnag, yn ymarferol, nid yw buddiananu Cymru wedi cael eu gogynnwys o dan 'Loegr' fel yr honnir weithiau. Wrth gwrs, mae Cymru erioed wedi anfon cynrychiolwyr i eistedd yn Nhŷ'r Cyffredin. Ond yn ychwanegol at hynny, ers dechrau'r ugeinfed ganrif mae llywodraethau olynol yn San Steffan wedi cydnabod bod angen trin Cymru yn wahanol mewn rhai meysydd polisi. Mewn meysydd megis addysg, y Gymraeg ac amaethyddiaeth, sefydlwyd sawl corff penodol i Gymru er mwyn teilwra polisïau at anghenion penodol Cymru a goruchwylio'r broses o'u rhoi ar waith yng Nghymru. Roedd hyn yn gyfystyr â phroses o ddatganoli gweinyddol. Erbyn y 1950au, roedd cymaint â 17 o adrannau'r llywodraeth wedi sefydlu unedau gweinyddol yng Nghymru. Penodwyd Henry Brooke fel y Gweinidog cyntaf dros Faterion Cymreig yn 1957, a sefydlwyd Swyddfa Gymreig (o dan arweinyddiaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru) yn 1964 er mwyn ‘express the voice of Wales’ ym mhrosesau llunio polisïau llywodraeth ganolog (Bogdanor, 1999, t. 160).
Fodd bynnag, nid oedd pawb yn fodlon ar ddatganoli gweinyddol. Ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae grwpiau a phleidiau gwleidyddol penodol wedi dadlau bod y math hwn o gynrychiolaeth wleidyddol yn annigonol. Gadewch i ni edrych yn fanylach at rai o'r pryderon hyn ynglŷn ag ansawdd cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru.