5 Dosbarth
Ni chaiff dosbarth ei drafod yn aml iawn mewn sgyrsiau cwrtais. Ni fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn gofyn i rywun y maent newydd ei gyfarfod i ba ddosbarth cymdeithasol y mae'n perthyn. Byddent yn ystyried bod hynny'n anghwrtais ac y byddai yn eu hatal rhag dod i adnabod y person fel unigolyn. Ond mae cymdeithasegwyr a haneswyr yn defnyddio'r gair yn aml ac mae'r rhan fwyaf ohonom yn deall beth mae'n ei olygu yn gyffredinol. Mae'n ein helpu i feddwl am batrwm cyffredinol ein cymdeithas a'n lle ni yn y gymdeithas honno. Mae arolygon cymdeithasol yn sicr yn holi am ddosbarth yn aml ac mae ymchwilwyr marchnad yn hoffi gosod pobl mewn grwpiau yn unol â'r hyn y maent yn debygol o brynu a defnyddio. Mae gan gyfwelwyr ryddid i ryw raddau i ofyn cwestiynau digywilydd!
Gweithgaredd 10
Yn gyntaf, atebwch y gwestiwn hyn:
I ba ddosbarth cymdeithasol rydych chi'n perthyn, yn eich barn chi?
dosbarth uwch
dosbarth canol
dosbarth gweithiol
Nid oes dosbarthiadau yn bodoli mwyach, yn fy marn i. Pam y gwnaethoch roi'r ateb hwnnw?
Pam y gwnaethoch roi'r ateb hwnnw?
Nawr, edrychwch ar Ffigur 8 sy'n rhoi atebion (a gasglwyd o ranbarthau amrywiol Prydain) i'r cwestiwn cyntaf.
Beth sy'n wahanol am yr atebion a roddwyd yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o Brydain?
Gadael sylw
Yn yr arolwg hwn, a gynhaliwyd yn 2008, dywedodd 54 y cant o bobl yng Nghymru eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol a dywedodd 32 y cant eu bod yn perthyn i'r dosbarth canol. Roedd y 14 y cant arall naill ai wedi gwrthod ateb (mae'n gwestiwn digywilydd!) neu wedi dweud eu bod yn perthyn i ddosbarth arall. Cymru sydd ag un o'r canrannau uchaf ym Mhrydain o bobl sy'n dweud eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol; yn ne-ddwyrain Lloegr a Llundain, mae tua 50 y cant o bobl yn teimlo eu bod yn perthyn i'r dosbarth canol a llai na 40 y cant yn teimlo eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol, sydd i'r gwrthwyneb bron i'r canrannau yng Nghymru. Dim ond yr Alban ac ardal ogleddol gogledd Lloegr sydd â chanran uwch o bobl sy'n dweud eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol: tua 60 y cant.
Felly, gall y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru osod eu hunain mewn dosbarth a theimlo eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol.
Mae ateb yr ail gwestiwn yng Ngweithgaredd 10 yn llawer mwy anodd; ac nid ydym yn gwybod pam wnaeth y bobl yng Nghymru a gymerodd ran yn yr arolwg ateb fel y gwnaethant. Ond mae gennym yr atebion a roddodd rhai pobl yn Abertawe i gyfwelwyr yn 2002.
Dywedodd prifathrawes 58 oed o Dreforys ei bod yn perthyn i'r dosbarth canol ond ychwanegodd:
I was obviously born working class. I obviously have, if you are thinking in more, sort of, social categories, typical of the Welsh working class, aspired to be a teacher and so on ... I’m not a fan of class. It’s one thing I don’t like really.
Y tu ôl i'r ateb syml i gwestiwn, mae hanes personol cymhleth iawn yn aml. Fel llawer o bobl, mae'r ymatebydd yn anghyfforddus â'r syniad o ddosbarth mewn rhai ffyrdd. Dywedodd merch 31 oed o ardal ddifreintiedig â thai cymdeithasol:
I wouldn’t think I’m better than anybody else, you know, if somebody is, you know, better off than me, or hasn’t got as much or whatever, I wouldn’t say, “Look I’ve got more than you so I’m better than you.” No, I wouldn’t have thought so.
Mae llawer ohonom yn dweud ein bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol neu'r dosbarth canol am fod y rhain yn gategorïau 'cyffredin' yn hytrach na gosod ein hunain mewn dosbarth uwch nag eraill (Savage, 2000). Dyna'n union beth mae'r ferch hon yn ei wneud.
Pam bod cymaint o bobl yng Nghymru yn dewis dweud eu bod yn perthyn i'r dosbarth gweithiol yn hytrach na'r dosbarth canol - yn enwedig o gymharu â phobl yn ne-ddwyrain Lloegr? Dyma un cliw posibl o astudiaeth o weithwyr dur a gollodd eu swyddi yn y 1980au:
Southern English middle-class readers, like the present writer, may have difficulty in grasping that to be working class (at any rate in South Wales) is not to ... lack ... the ‘badges of achievement’ which all others possess, but is, rather, to occupy an honourable status which gives you dignity and entitles you to respect. As one of our respondents who had been out of work for over a year put it: ‘I used to be working class, but I can’t claim that any more. I’ve fallen below that.
Mae hyn yn debyg i'r ateb a roddodd merch 34 oed o ystâd ddifreintiedig yn Abertawe bron i 20 mlynedd yn ddiweddarach: ‘Not working class any more, common’ (dyfynnwyd yn Charles et al., 2008, t. 87). Drwy ddod yn ddi-waith, roedd wedi colli ei statws cymdeithasol yn ei barn hi. Ni chredai cwpwl yn eu 60au hwyr a oedd yn byw bywyd cyfforddus yn ardal Ystumllwynarth (a fyddai'n ardal dosbarth canol gadarn ym marn y rhan fwyaf o bobl) fod ganddynt unrhyw reswm i wrthod label y dosbarth gweithiol:
Wife: I wouldn’t like to say I’m not working class because we come from strong Labour working class backgrounds. ... My father was a miner. Leighton’s [her husband’s] father was a red.
Mae ein gorffennol yn ogystal â'n hamgylchiadau presennol yn dylanwadu ar y ffordd rydym yn ystyried ein hunain o ran dosbarth. Er y bydd rhai pobl yn hoffi teimlo eu bod yn 'uwch' nag eraill, bydd eraill yn anghyfforddus â'r syniad. Efallai ein bod yn ansicr ynglŷn â'n statws mewn cymdeithas ac nad ydym yn hoffi gosod ein bywydau unigol mewn blychau bach a grëwyd gan eraill. Mae'r syniad o ddosbarth yn creu ymdeimlad o hierarchaeth. Mae'r term 'haenu cymdeithasol', sef ffordd arall o gyfeirio at ddosbarth, wedi'i fenthyg o faes daeareg lle mae pob haen o garreg yn gorchuddio un arall.
Sut y byddwn i'n ateb y cwestiynau yng Ngweithgaredd 13? Rwy'n perthyn i'r dosbarth canol, sbo.
Pam fy mod i'n dweud hynny? Roedd gennyf swydd broffesiynol â chyflog a oedd yn llawer mwy na'r cyflog cyfartalog. Roedd gennyf gryn ryddid o fewn y swydd honno; roedd pobl yn ymddiried ynof i'w chyflawni heb oruchwyliaeth fanwl. Roedd hynny wedi fy ngosod yn y 'dosbarth gwasanaeth' fel y mae rhai cymdeithasegwyr yn ei alw; hynny yw, roeddwn yn ennill cyflog eithaf da, gallem edrych ymlaen at godiad cyflog blynyddol a dyrchafiad ac yn gyfnewid am hynny, roedd disgwyl imi beidio â chyfyngu fy hun i weithio ar adegau penodol ond buddsoddi cryn dipyn o'm bywyd ynddo (h.y. gwasanaethu). Roedd fy amodau gwaith yn ddymunol ac yn ddiogel. I gael swydd fel hon, roedd angen dwy radd prifysgol arnaf. Nawr fy mod wedi ymddeol, rwy'n cael pensiwn rhesymol. Mae'r rhan fwyaf o'm ffrindiau agos mewn sefyllfa debyg ac mae ein plant wedi cael graddau da ac wedi cyrraedd safle cymdeithasol tebyg. Roedd tad fy ngwraig yn athro mewn prifysgol. Rydym yn byw mewn tŷ gweddol fawr ac mae gennym rywfaint o gynilion. Rwy'n gwrando ar Radio 3 a Radio 4, rwy'n hoffi cerddoriaeth glasurol a jazz ac rwy'n darllen llyfrau a gaiff eu hystyried fel arfer yn llyfrau difrifol, heb sôn am The Guardian a The Observer.
Wrth bortreadu fy hun fel hyn, rwy'n cyfeirio at y mathau o feini prawf y mae gwyddonwyr cymdeithasol yn eu defnyddio i asesu dosbarth. Mae addysg, fel arfer, yn ffactor hollbwysig yn hyn o beth, yn ogystal â'ch swydd a'r rhwydweithiau o bobl rydych yn rhan ohonynt. Mae dosbarth hefyd yn gysylltiedig â diwylliant; caiff Radio 4 ei ystyried yn aml yn orsaf dosbarth canol (a chanol oed!). Rydym wedi cael manteision sydd wedi cael eu trosglwyddo i'n plant. Un peth nad yw'n cael ei grybwyll mor aml wrth siarad am ddosbarth yw'r ffaith mai dyn ydw i. Yn sicr yn y gorffennol, y gred oedd mai dosbarth oedd y statws yr oedd dynion, fel penaethiaid y cartref, yn ei roi i'r teulu cyfan. Er gwaethaf yr enillion a wnaed drwy ffeministiaeth a deddfwriaeth cyfle cyfartal, mae dynion yn dal i dueddol o fwynhau mantais dros ferched o ran y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Felly, os gallaf osod fy hun yn y safle cymdeithasol hwn, pam wnes i ychwanegu'r 'sbo' grwgnachlyd yna ar ddiwedd fy ateb? Mae fy rhesymau yn debyg iawn i'r rhai a gafodd eu cyfweld yn Abertawe a'u dyfynnu uchod. Gall dweud eich bod yn perthyn i'r dosbarth canol, yng Nghymru o leiaf, ymddangos yn fawreddog a rhwysgfawr. Roeddwn yn ceisio bod yn onest ac yn realistig - a defnyddio'r hyn rwyf yn ei wybod am y ffordd y mae cymdeithasegwyr yn trafod dosbarth.
Yn bwysicach oll, cefais fy magu yng Nghymoedd y de lle roedd pawb yn perthyn i'r dosbarth gweithiol; roedd fy nhad yn yrrwr bws am ran o'i fywyd gwaith. Roedd hynny'n golygu oriau hir, cyflogau isel a dim pensiwn galwedigaethol. Mewn swyddi fel hyn, mae pobl yn tueddu i adael eu gwaith ar ôl unwaith y byddant yn cyrraedd adref; maent yn gwneud cyfran benodol o waith am gyflog penodol ac yn aml nid oes ganddynt unrhyw siawns o gamu ymlaen. Disgwylir iddynt wneud bywoliaeth ond nid gwasanaethu fel y cyfryw. Fi oedd y cyntaf o'm teulu i fynd i'r brifysgol; ac yn y pentref rwy'n dod ohono, roedd pwys mawr yn cael ei roi ar addysg a 'chamu ymlaen' yn bennaf oherwydd gallai hynny (fel y dywedodd llawer o lowyr wrthyf) eich arbed rhag gorfod dringo i lawr i grombil y ddaear bob diwrnod o'ch bywyd gwaith Ond tyfais i fyny gyda chomics yn hytrach na llyfrau, yr hen Light Programme (Radio 2 nawr i bob pwrpas), cerddoriaeth bop, ITV a chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd. Rwy'n dal i hoffi llawer o'r pethau hynny, hefyd. Yn wir, mae'n llawer rhy syml i feddwl bod ein dosbarth yn dibynnu ar p'un a ydym yn hoffi diwylliant 'uchel' neu 'isel' fel y'i gelwir. Mae llawer ohonom yn gwerthfawrogi cymysgedd o'r ddau.
Felly efallai eu bod wedi tynnu'r bachgen allan o'r Cymoedd ond nid ydynt wedi tynnu'r Cymoedd allan o'r dyn. Pe bawn i wedi cael fy magu mewn cartref dosbarth canol, mae'n debyg y byddwn wedi cael manteision y cefndir hwnnw, fel acen, cysylltiadau, llyfrau, addysg gerddorol: pethau sy'n cael eu galw yn gyfalaf cymdeithasol [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] a chyfalaf ddiwylliannol. Mae'r syniadau hyn yn gysylltiedig â gwaith y cymdeithasegydd Ffrengig Pierre Bourdieu (1930-2002), a archwiliodd yr agweddau diwylliannol ar ddosbarth yn arbennig. Fel y pwysleisiodd, gall cyfalaf cymdeithasol a diwylliannol gael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall ac mae'n amlwg yn cyflwyno manteision; mae fy mhlant wedi cael y rhain i raddau mwy nag y gwnes i.
Felly, mae fy mywyd i - fel bywydau'r rhai a gafodd eu cyfweld a'u dyfynnu uchod - yn codi materion yn ymwneud â symudedd cymdeithasol; hynny yw, gall pobl ddod yn aelodau o ddosbarth cymdeithasol gwahanol i'w dosbarth cymdeithasol cyntaf. Fel arfer wrth drafod hyn, rydym yn golygu symud i fyny'r raddfa gymdeithasol ond mae'n bwysig gwybod y gall pobl fynd i lawr yn ogystal â mynd i fyny. Mae symud i fyny mewn cymdeithas yn aml yn golygu symud i rywle arall. Agorodd astudiaeth o bobl dosbarth canol a gynhaliwyd yn y 1960au â'r sylw: ‘[Swansea’s] role in social and geographical mobility is that although it may appear in the first chapters of the autobiographies, it rarely appears in the last. Provincial Britain is somewhere to get away from ... ’ (Bell, 1968, t. 10). Mae hyn yn tynnu ein sylw at agwedd bwysig ar gymdeithas Cymru, sef bod llawer o bobl wedi symud o Gymru er mwyn camu ymlaen yn eu gyrfaoedd a chael mwy o gyfleoedd. Mae llawer llai o bobl wedi symud i Gymru er mwyn gwneud hynny.