Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1.1 Lle

Yn yr oes ddiwydiannol, tyfodd cymunedau yng Nghymru o gwmpas eu capeli, yr undeb, y pwll glo neu'r chwarel ac, yn enwedig yn y de, y clwb rygbi. Drwy'r sefydliadau hyn, roedd modd i bobl wneud pethau gwahanol gyda'i gilydd gan adeiladu cymunedau a hyd yn oed rhyw fath o ddinasyddiaeth neu hunaniaeth leol. A thrwy'r clybiau rygbi lleol, mae chwaraewyr a chefnogwyr yn dal i fynegi eu hymrwymiad, eu teyrngarwch a'u balchder tuag at eu tref neu'u hardal. Mae'r ymrwymiad hwn i'r ardal leol yn rymus o hyd. Mae'n cynnwys prosesau eithrio (sy'n diffinio'r bobl hynny o'r tu allan) yn ogystal â chynnwys - fel y dywed Gavin Henson:

People in Swansea view Llanelli folk as foreigners, even though they’re only 15 miles away. It was certainly like that when I was at Swansea. Neath people were considered almost normal, but people from Llanelli were weird. They spoke funny and had a different outlook. As a Swansea player there was a rivalry with Neath. With Llanelli it was more of a hatred.

(Henson, 2005a, t. 130)

Mae'r ymrwymiad i'r ardal leol, ym maes rygbi ac yn gyffredinol yng Nghymru, yn gryf iawn o hyd. Mae bywgraffiad Shane Williams (a chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn 1999), er enghraifft, yn cyfeirio'n fynych at ei ymlyniad cryf â Chwm Aman (Williams a Parfitt, 2008). Rhaid defnyddio'r dychymyg wrth ystyried yr ymdeimlad hwn o berthyn.

O ystyried y gwahaniaethau yng Nghymru, nid yw dychmygu'r wlad yn dasg syml, yn enwedig o gofio'r gwahaniaethau rhwng y de a'r gogledd. Yn y gogledd, bu llai o ddiddordeb mewn rygbi ac mae pêl-droed yn fwy poblogaidd. Fel llawer o bethau yng Nghymru - dosbarthiad y boblogaeth, gweithgarwch economaidd a lleoliad sefydliadau a mudiadau cenedlaethol - mae rygbi wedi'i ganoli yn y de. Serch hynny, mae rhai chwaraewyr blaenllaw o'r gogledd wedi'u cynnwys yn y garfan genedlaethol, yn arbennig Dewi Bebb o Fangor yn y 1960au ac yn fwy diweddar, Robin McBryde ac Eifion Lewis-Roberts. Tyfodd y rhaniad rhwng y de a'r gogledd pan fabwysiadwyd y strwythur rygbi rhanbarthol yng Nghymru yn 2003, oherwydd mae'r holl ranbarthau wedi'u lleoli yn y de. Eto i gyd mae tua 700 o ddeiliaid debenturau yn y gogledd, mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn rhoi bron 3,000 o docynnau i glybiau yn y gogledd ac, wrth gwrs, mae llawer yn teithio i lawr gyda thocynnau sydd wedi'u gwerthu'n breifat neu fel rhan o becynnau lletygarwch neu nawdd (gohebiaeth bersonol, URC, 16 Hydref 2009). Felly, er gwaethaf cyfyngiadau daearyddol a'r gwahaniaethau hanesyddol rhwng y gogledd a'r de, mae llawer o gefnogaeth yn y gogledd i'r tîm cenedlaethol, ond llai na'r de.

Mae'r newid i rygbi proffesiynol yn 1995 a'r strwythur rhanbarthol yn 2003 wedi golygu bod chwaraewyr yn torri i ffwrdd fwyfwy oddi wrth y syniadau traddodiadol o berthyn i le arbennig - maent yn chwarae dan gontract i unrhyw glwb, waeth ble y cawsant eu geni na ble y maent yn byw. Felly, bu cynnydd amlwg yn nifer y chwaraewyr a'r hyfforddwyr nad ydynt yn dod o Gymru. Er bod gan y gêm gysylltiadau cryf o hyd â'i gwreiddiau hanesyddol, nid yw clybiau na chwaraewyr rygbi yn cynrychioli cymunedau fel yr oeddent yn arfer ei wneud. Mae'n ddiddorol nodi, wrth i'r strwythur rhanbarthol gael ei fabwysiadu, fod cefnogwyr rygbi yn uniaethu mwy â'r tîm cenedlaethol er bod ei hunaniaeth leol wedi lleihau (Roderique-Davies et al., 2008).

Daeth rygbi rhanbarthol a phroffesiynol i fodolaeth tua'r un pryd â'r newid mawr arall yn hanes rygbi Cymru dros y blynyddoedd diwethaf: agor Stadiwm y Mileniwm. Mae'r adeilad hwn yng nghanol dinas Caerdydd, â'i gromen a'i goesau enfawr, ei 74,500 o seddi a'r to sy'n agor, i'w weld o'r holl brif ffyrdd sy'n dod i mewn i'r ddinas. Yn gyflym iawn, daeth yn ddelwedd symbolaidd ac, yn wir, eiconig nid yn unig o'r ddinas ond o'r genedl, gan gymryd lle'r delweddau o gestyll, defaid, tirweddau a thraethau fel prif eiconograffi Cymru (Pritchard a Morgan, 2003). Tyfodd amlygrwydd y ddinas a'r wlad pan gafodd gemau terfynol Cwpan yr FA eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm am chwe blynedd tra roedd Wembley'n cael ei ailadeiladu (2001-06), ac mae'r un peth yn wir hefyd am gyngherddau pop a digwyddiadau eraill a gynhelir yn y stadiwm - maent yn cyfrannu'n fawr at y ddelwedd o Gaerdydd fel prifddinas fodern a chosmopolitan. Mae'r stadiwm newydd yn cysylltu Cymru'n agosach â Lloegr a diwylliant byd-eang. Mae'n gwneud Cymru yn fwy gweladwy, ond mae hefyd yn rhoi delwedd wahanol (a newydd) o'r wlad.

Mae'r brifddinas yn chwarae rôl hynod o bwysig wrth ddiffinio'r diwylliant cenedlaethol, felly mae'r syniad o Gaerdydd fel calon Cymru yn amharu ar ffyrdd eraill o ddeall Cymru. Er nad yw'n bell i ffwrdd o safbwynt diwylliannol ac economaidd, mae Caerdydd yn ymddangos fel byd arall o gymharu â rhai cymunedau yn y Cymoedd, heb sôn am leoedd mwy pellennig yng Nghymru.