1.2 Gweithgareddau sain
Gwrandewch ar yr eitem sain isod a chwblewch y gweithgaredd.
Eitem sain 1 (Rygbi yn y Gymru gyfoes)
Yn Eitem Sain 1 (isod), mae Hugh Mackay yn cyfweld â Gareth Williams, Athro Hanes yng Nghanolfan Cymru Fodern a Chyfoes ym Mhrifysgol Morgannwg, am rygbi yng Nghymru. Mae'n ysgolhaig brwdfrydig ac yn cefnogi'r gamp genedlaethol ac ef hefyd yw un o gydawduron hanes swyddogol URC, Fields of Praise (Gwasg Prifysgol Cymru, 1980). Gwrandewch ar yr eitem sain nawr.
Mae'r eitem sain hon yn Saesneg; mae trawsysgrif Cymraeg ar gael.
Transcript
Gweithgaredd 2
Ystyriwch y cwestiynau isod a gwnewch nodiadau arnynt. Ar ôl ichi orffen, cymharwch eich nodiadau â'r drafodaeth isod.
Sut y daeth rygbi yn brif ffocws ar gyfer hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru?
Pwy sy'n ymwneud â rygbi a phwy sydd wedi'u heithrio neu'u gwthio i'r ymylon?
Sut mae newidiadau yn y gêm yn newid ffyrdd poblogaidd o ymgysylltu â rygbi yng Nghymru?
Gadael sylw
Fel y trafodwyd yn Adran 1 ac Eitem Sain 1, mae'r cysylltiad rhwng hunaniaeth genedlaethol a rygbi yn hirsefydledig. Cafodd rygbi ei gyflwyno i Gymru yng nghanol y ddeunawfed ganrif a chafodd ei fabwysiadu gan boblogaeth de Cymru a oedd yn tyfu ac a oedd yn cynnwys nifer fawr o fewnfudwyr, ar adeg o ddiwydiannu cyflym. Er i'r gamp gyrraedd Cymru drwy'r system ysgolion bonedd, erbyn buddugoliaeth 1905 yn erbyn y Crysau Duon, rygbi oedd y gamp genedlaethol. Mae wedi llwyddo i apelio at y de a'r Gogledd, yn ogystal ag ardaloedd gwledig a threfol, ac wrth i'r genedl dyfu (o ran ei sefydliadau cenedlaethol a'r graddau y mae pobl Cymru yn uniaethu â'r genedl) mae rôl rygbi fel camp sy'n uno'r genedl a gweithgaredd diwylliannol wedi cynyddu hefyd.
Fel y gwnaethoch ddarllen yn Adran 1, mae rygbi yng Nghymru yn ymwneud ag eithrio yn ogystal â chynnwys, a theimlir yr angerdd a'r cynnwrf mwyaf pan fydd Cymru yn chwarae Lloegr. Fel y mae'r Stereophonics yn canu: ‘As long as we beat the English we don’t care.’ Ond hyn yn oed o fewn Cymru, mae rhai wedi'u heithrio i ryw raddau: er enghraifft, mae llai o gefnogaeth i'r gêm yn y gogledd na'r de. Mae rhaniadau mawr rhwng dynion a merched hefyd, ond gwelwyd twf sylweddol yn nifer y merched sy'n cefnogi ac yn chwarae rygbi dros y blynyddoedd diwethaf. Yn gymharol ddiweddar (cyfnod apartheid yn Ne Affrica), nid yw hanes rygbi Cymru ar faterion yn ymwneud â hil wedi bod yn dda. A gellir ystyried bod y gamp yn un hynod o wrywaidd sydd wedi'i gwreiddio mewn heterorywioldeb (heb gynnwys penderfyniad Gareth Thomas i ddatgelu ei fod yn hoyw). Nid yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru, wrth gwrs, yn chwarae rygbi nac yn ei wylio, heblaw ar ddiwrnodau Rhyngwladol, a hyd yn oed bryd hynny, lleiafrif bach o'r boblogaeth sy'n gwneud hynny.
Mae'r clip hwn yn dadlau nad yw rygbi bellach yn gêm gymunedol ac, yn amlwg, mae nodweddion economaidd-gymdeithasol y dorf sy'n mynd i gemau'r Chwe Gwlad yng Nghaerdydd yn wahanol iawn heddiw o gymharu â'r cyfnod cyn-broffesiynol. Yn lleol, fodd bynnag, mae'r gêm yn gymunedol iawn a bellach mae llawer mwy o rygbi ar y teledu ac mae llawer o bobl yn ei wylio. Mae dyfodiad y gêm broffesiynol a'r strwythur rhanbarthol, sydd wedi lleihau statws rhai timau lleol, hefyd yn golygu bod pobl yn uniaethu mwy â'r tîm cenedlaethol.