Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Cenedlaetholdeb a'r iaith Gymraeg

Charlotte Aull Davies

Ar ddiwedd y 1960au ac yn y 1970au, roedd yr ymchwydd mewn gweithgarwch ethnig cyfundrefnol yng ngwledydd datblygedig y Gorllewin wedi peri syndod mawr i'r rhan fwyaf o sylwebwyr cymdeithasol, boed o'r byd academaidd, newyddiaduraeth neu wleidyddiaeth. Roedd sawl ffurf i'r gweithgarwch hwn, yn dibynnu'n bennaf ar natur y wladwriaeth yr oedd y gweithgarwch yn digwydd ynddi. Yn yr Unol Daleithiau, roedd grwpiau ethnig gwyn wedi ceisio sicrhau bod eu hunaniaethau diwylliannol neilltuol yn cael eu cydnabod yn well gan wrthod yr ideoleg o undod rhwng pawb. Mewn mannau eraill, defnyddiodd siaradwyr Ffrangeg yn Quebec a New Brunswick strwythur ffederal gwladwriaeth Canada i ddatblygu mudiadau a oedd yn ymgyrchu dros gefnogaeth swyddogol i'r iaith Ffrangeg drwy gyfrwng mwy o ymreolaeth wleidyddol.

Mae'r rhan fwyaf o wladwriaethau sefydledig Ewrop, gan gynnwys Ffrainc, Sbaen a Phrydain Fawr, yn cynnwys rhanbarthau â diwylliannau gwahanol, a lyncwyd gan y gwladwriaethau hyn drwy goncwest neu ddulliau eraill rhwng diwedd y canol oesoedd a'r 18fed ganrif. Yn y rhanbarthau hyn, a gaiff eu galw'n aml yn genhedloedd di-wladwriaeth heddiw, tyfodd mudiadau o blaid cydnabyddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol a wnaeth dyfu a lleihau am yn ail o ganol y 19eg ganrif ymlaen. Yn ystod y 1970au, gwelwyd adfywiad mawr yn y rhan fwyaf o'r mudiadau cenedlaetholgar ethnig hyn (a gafodd y label hwn am eu bod yn apelio am ymreolaeth wleidyddol ar sail eu harwahanrwydd diwylliannol), gan gynnwys y mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru.

Yr adfywiad hwn ddaeth â mi - anthropolegydd â diddordeb mewn astudio cenedlaetholdeb ethnig, sy'n cyfuno gwleidyddiaeth a diwylliant - i Gymru, ac felly y dechreuodd fy nghysylltiad deallusol a phersonol â diwylliant, hunaniaeth a gwleidyddiaeth Cymru sydd bellach yn dyddio nôl dros dri degawd. Pan ddeuthum i Gymru am y tro cyntaf yn 1976, roedd agweddau diwylliannol a gwleidyddol y mudiad cenedlaetholgar wedi cyrraedd uchafbwynt. Roedd yr ymgyrch dros gydnabyddiaeth swyddogol i'r iaith Gymraeg, a arweiniwyd gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, wedi dechrau cael effaith wrth i fwy o arwyddion ffordd dwyieithog ymddangos ac wrth i ffurflenni dwyieithog ddechrau dod ar gael. Cafodd tri aelod seneddol o Blaid Cymru, y blaid wleidyddol â'r prif nod o gael hunanlywodraeth i Gymru, eu hethol yn 1974, allan o 36 o ASau Cymreig, a llwyddodd y blaid i wneud cynnydd pwysig ym maes llywodraeth leol.

Fodd bynnag, erbyn diwedd y degawd, gwelwyd dirywiad mawr mewn cenedlaetholdeb gwleidyddol ar ôl pleidlais 'Na' bendant yn refferendwm 1979 ar ddatganoli pwerau gwleidyddol i Gymru a'r Alban, dirywiad na wnaeth ddechrau dod drosto tan tua diwedd y 1980au. Ni ddilynodd mudiad yr iaith Gymraeg yn union yr un cyfeiriad a chafodd rai llwyddiannau pwysig yn y 1980au a'r 1990au, yn enwedig sefydlu S4C, y gwasanaeth teledu Cymraeg, yn 1982, a phasio Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Mae'r mudiad cenedlaetholgar yng Nghymru wedi'i drawsnewid oherwydd y gwrthdro anhygoel a arweiniodd at bleidlais 'Ie' yn refferenda 1997 i sefydlu cynulliad etholedig yng Nghymru a senedd yn yr Alban. Cafodd Plaid Cymru, sef y prif fynegiant gwleidyddol o ddelfrydau cenedlaetholgar o hyd, ganran llawer uwch o'r bleidlais yn etholiad cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 nag a gafodd erioed o'r blaen yn etholiadau'r DU a hi oedd y blaid fwyaf ond un ar ôl y Blaid Lafur. Ar ôl canlyniadau etholiad 2007, daeth Plaid Cymru i lywodraeth mewn clymblaid â'r Blaid Lafur tan etholiad 2011 yn ystod cyfnod pan roedd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cael eu hymestyn.

Ond nid gyda gwleidyddiaeth yn yr ystyr gonfensiynol y byddwch yn dechrau, ond gyda diwylliant ac, yn enwedig, iaith. Byddwch yn edrych yn gyntaf ar y gydberthynas rhwng iaith, hunaniaeth a chenedlaetholdeb ac wedyn ar y rôl y mae'r Gymraeg wedi'i chwarae yn hunaniaeth genedlaethol Cymru a'r mudiad cenedlaetholgar.