5.1.3 Gwladychwyr gwyn
Rydych eisoes wedi dod ar draws y syniad bod llawer o'r cyfoeth a'r pŵer yng Nghymru yn eiddo i bobl sy'n byw mewn mannau eraill. Mae prif sefydliadau ariannol Prydain yn Llundain. Efrog Newydd a Tokyo yw canolfannau ariannol mawr eraill y byd. Mae llawer o'r cwmnïau sy'n cyflogi pobl yng Nghymru yn rhyngwladol ac mae eu pencadlys y tu allan i Gymru. Ond beth am Saeson sy'n byw yng Nghymru? A ydynt yn creu elite [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ? Ai nhw sy'n mynd â'r rhan fwyaf o'r swyddi gorau? A oes rhaniad diwylliannol yn y gweithlu? A all bod yn Sais/Saesnes fod o fantais mewn rhyw ffordd? Ar un adeg, mewn rhai trafodaethau gwleidyddol yng Nghymru, galwyd y bobl hyn yn 'wladychwyr gwyn' - hynny yw, roeddent yn cael eu cymharu â'r grwpiau elite Ewropeaidd mewn gwledydd Affricanaidd a oedd yn llywodraethu dros y brodorion. Mae hyn, wrth gwrs, yn ffordd ymfflamychol o fynegi'r syniad.
Mae tua un rhan o bump o boblogaeth Cymru wedi cael eu geni yn Lloegr. Ni all pob un ohonynt fod mewn swyddi elite - mae gormod ohonynt, yn syml - ond a ydynt yn mynd â nifer anghymesur o'r swyddi mwyaf pwerus sydd â'r cyflogau gorau? Yr ateb byr yw nad ydym yn gwybod mewn gwirionedd. Mae cymdeithasegydd o Loegr (o'r gogledd-ddwyrain) yn rhoi un rheswm am hyn: ‘Social science has been, rightly, accused of adopting a posture of palms up to the rich for the receipt of funding and eyes down to the poor as part of the surveillance necessary for their control’ (Byrne, 2005, t. 5).
Fel y gwelwch, mae cryn dipyn o waith ymchwil yng Nghymru ar y tlawd. Mae astudiaethau o'r cyfoethog a'r pwerus yn llawer mwy anarferol ac nid ydynt yn bendant iawn chwaith. Mae'r ychydig dystiolaeth sydd ar gael yn dangos bod gan y rhai na chawsant eu geni yng Nghymru rywfaint o fantais. O ddata cyfrifiad 1991, gellir dangos bod 6.2 y cant o'r rhai a gafodd eu geni y tu allan i Gymru yn gweithio yn y proffesiynau, o gymharu â 2.2 y cant o bobl ddi-Gymraeg a gafodd eu geni yng Nghymru a 3.5 y cant o siaradwyr Cymraeg. Hynny yw, maent bron deirgwaith yn fwy tebygol o fod yn y swyddi gorau na phobl o Gymru nad ydynt yn siarad Cymraeg, a bron ddwywaith yn fwy tebygol na siaradwyr Cymraeg (Aitchison a Carter, 2000, tt. 123–7). Fodd bynnag, mae cyfrifiad 2011 yn dangos bod yr un gyfran (7.6%) o siaradwyr Cymraeg a rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg mewn 'galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol uwch'; a bod 23% o siaradwyr Cymraeg a dim ond 18.7% o'r rhai na allant siarad Cymraeg yn y categori nesaf i lawr, sef 'galwedigaethau rheoli, gweinyddol a phroffesiynol is'. Ar ben arall y tabl economaidd-gymdeithasol, gwelir patrymau i'r gwrthwyneb gyda mwy o bobl na allant siarad Cymraeg yn cael eu cynrychioli ymhlith y 'galwedigaethau lled-ailadroddus', y 'galwedigaethau ailadroddus' ac ymhlith y rhai 'sydd byth wedi gweithio ac sy'n ddi-waith yn hirdymor' (Ystadegau Cymru 2012, Tabl 4). Felly, mae rhywfaint o wirionedd i'r farn bod grŵp elite yn dod i mewn i Gymru. Ond mae'r data hyn hefyd yn dangos gwahaniaethau mawr rhwng Cymry sy'n siarad Cymraeg a'r rhai na allant siarad Cymraeg, wrth i ddata'r cyfrifiad awgrymu bod mwy o bobl na allant siarad Cymraeg i'w gweld yn y categorïau swyddi economaidd-gymdeithasol is.