Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.3 Casgliad

  • Cyflogau isel yw un o achosion tlodi, yn enwedig yn ardaloedd gwledig Cymru.

  • Mae lefelau uchel iawn o bobl heb waith mewn ardaloedd a arferai fod yn gadarnleoedd y diwydiant glo, y diwydiant gweithgynhyrchu dur a diwydiant trwm.

  • Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd yn cynyddu ymhlith dynion, ond yn gostwng ymhlith merched.

  • Un o ganlyniadau anweithgarwch economaidd yw bod yr unigolion a'r cymunedau dan sylw yn cael eu gwthio i'r ymylon.

Yn yr adran hon, rydych wedi astudio prif nodweddion yr economi Gymreig gyfoes a'r patrymau gwaith sy'n deillio ohoni. Mae newidiadau cymdeithasol mawr wedi digwydd mewn ymateb i batrymau economaidd newydd, yn enwedig rôl gynyddol merched yn y gweithle a'r profiad o fod heb waith. Mae'r ddau newid hyn wedi effeithio ar fywyd teuluol a chymdeithasol; yn wir, mae'r profiad cymdeithasol a diwylliannol o fyw yng Nghymru wedi newid. Mae sicrhau dyfodol mwy ffyniannus i economi Cymru yn her fawr i Lywodraeth Cymru. Yn ogystal â goresgyn rhai o wendidau strwythurol yr economi, bydd yn rhaid i bolisïau herio effaith gymdeithasol a diwylliannol cyflogau isel ac anweithgarwch economaidd hirdymor yn llwyddiannus er mwyn i holl ddinasyddion Cymru fwynhau safonau byw sy'n cymharu'n ffafriol â gweddill y DU.