7.3 Casgliad
Mae rhai yn credu bod cymesuredd rhwng gwerthoedd 'Llafur' a gwerthoedd 'Cymreig'.
Ailgyneuwyd y ddadl ynglŷn â datganoli yn wyneb amodau economaidd anodd y 1980au a'r cyfnod hir o lywodraethau Ceidwadol.
Gwnaeth rhai gwleidyddion a wrthwynebodd ddatganoli yn y 1970au newid eu meddwl ynglŷn â'r mater tua'r adeg hon.
Ar ôl i Lafur ennill grym yn 1997, cymeradwywyd datganoli, ond o fwyafrif bach iawn.
Yn etholiadau i'r Cynulliad, mae goruchafiaeth Llafur dros wleidyddiaeth Cymru wedi bod yn ddiogel.
Ers 2001, mae'r Blaid Lafur wedi ceisio ailddiffinio ei gwerthoedd, er mwyn diwallu anghenion penodol Cymru.
Derbynnir yn gyffredinol bod yn rhaid i'r traddodiad Llafur ymaddasu a newid i fodloni uchelgeisiau Cymru yn yr unfed ganrif ar hugain.
Yn ystod yr adran hon, rydym wedi edrych ar darddiad a datblygiad traddodiad gwleidyddol sydd wedi ffurfio gwleidyddiaeth a chymdeithas Cymru ers canrif bron. Fel y gwelsom, bu llawer mwy i'r traddodiad Llafur na gwleidyddiaeth y maes glo. Ymwreiddiodd y traddodiad Llafur – traddodiad radical – yn ddwfn yn enaid y Cymry, gan gynrychioli dyheadau cymdeithasol, diwylliannol, ieithyddol a gwleidyddol a oedd yn aml yn croesi'r ffiniau a oedd yn seiliedig ar ddosbarth cymdeithasol. Ar adegau, fel y gwelsom, nid oedd modd gwahaniaethu rhwng gwerthoedd Llafur a gwerthoedd, rhywbeth a fu'n cymylu'r syniadau croes o hunaniaeth mewn gwahanol rannau o Gymru.
Hoffwn orffen lle dechreuon ni, gydag erthygl Martin yn The Guardian ym mis Medi 2009. Gorffennodd Kettle ei erthygl drwy ddadlau:
Maybe this scenario is cast too dramatically ... any claim that Wales is a Conservative nation now – especially based on the support of fewer than one voter in three – is ridiculous. But the idea that it is still a Labour nation is increasingly ridiculous too. As Labour prepares to choose a successor to Rhodri Morgan, its admirable Welsh leader who is 70 this month, Welsh politics is changing fast. Land of my fathers no more.
Nid oes angen i'r senario ymddangos mor ddu. Mae cynrychiolwyr Llafur yn effro i'r heriau o'u blaenau. Mae angen i'r blaid gael y personoliaethau a'r polisïau i ailddyfeisio neu ail-lunio'r traddodiad, er mwyn ail-greu ei berthnasedd i bobl gyffredin sy'n byw yn y de ac yn y gogledd, sy'n siarad Cymraeg neu sydd ddim yn siarad Cymraeg. Os gall wneud hyn, fel yr awgryma'r rhai ffyddiog, efallai y byddwn yn dal i drafod rhinweddau'r traddodiad Llafur ymhen hanner canrif arall.