Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1 Rygbi - cyflwyniad i Gymru gyfoes

Hugh Mackay

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Cymru wedi dod yn llawer mwy unigryw o safbwynt ei sefydliadau a'i diwylliant. Yn 1982, sefydlwyd Sianel Pedwar Cymru (S4C), sef pedwaredd sianel deledu Cymru, agorodd Stadiwm y Mileniwm yn 1999 a Chanolfan Mileniwm Cymru (cartref Opera Cenedlaethol Gymru) yn 2004 a chyhoeddwyd Gwyddoniadur Cymru yn 2007. Yn hollbwysig, cafodd aelodau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu (CCC) eu hethol yn 1999 ac ers hynny, rydym wedi gweld llu o bolisïau a chyrff Cymreig yn datblygu, o fewn y llywodraeth ac yn y gymdeithas sifil. Mae'r datblygiadau hyn yn deillio o'r ffordd y mae pobl yng Nghymru yn ystyried eu hunain ac yn uniaethu â'r genedl a hefyd yn effeithio ar y ffordd y maent yn gwneud hynny - ac mae'r nodweddion cyfoes hyn o ddiwylliant Cymreig hefyd yn dylanwadu ar farn pobl eraill ar Gymru a'i phobl. Yn draddodiadol, mae stereoteipiau'r Saeson o Gymru wedi bod yn ddifrïol yn bennaf (portreadu'r Cymry fel lladron ac ati) ac mae pobl yng Nghymru wedi cyfeirio at ddiffyg hyder yn eu gwlad yn aml. Heddiw, mae'r cysyniadau o Gymru a'i phobl yn newid.

Mewn sawl ffordd, mae'r hen eiconau a stereoteipiau'n fyw o hyd - efallai bod glowyr a'r capeli yn diflannu, ond mae defaid, corau, cennin, cennin Pedr a derwyddon yn parhau i fod yn amlwg. Mae'r Stereophonics, Manic Street Preachers, Dafydd Thomas (yr unig berson hoyw ym mhentref Llanddewi Brefi yn Little Britain), Catherine Zeta-Jones, Rhys Ifans, Ioan Gruffudd, Julien Macdonald, Stacey Shipman (o Gavin and Stacey), Russell T. Davies a Dr Who, yn cyfleu delwedd fwy modern o Gymru sy'n cyferbynnu â'r gorffennol. Ochr yn ochr â'r newydd, mae hen eiconau, enwogion a sefydliadau'n parhau ond mae eu ffurfiau a'u hystyron yn newid a chânt eu dehongli mewn ffyrdd newydd. Mae Shirley Bassey wedi perfformio yn Glastonbury ac mae Tom Jones yn parhau i ailddyfeisio ei hun. Mae rygbi yn enghraifft arall o hyn; caiff y gêm ei chwarae ledled y byd ond mae iddi arwyddocâd arbennig iawn yng Nghymru, lle cafodd ei mabwysiadu fel y gamp genedlaethol ar ddechrau'r 20 fed ganrif.

Gan gofio hyn, nodau'r adran hon yw:

  • eich cyflwyno i'r pynciau sy'n cael eu trafod ymhob un o'r adrannau nesaf

  • defnyddio rygbi fel prism, neu lens, i gyflwyno'r pynciau hyn.

Fel Cymru, a Chaerdydd yn enwedig, mae rygbi wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl un newyddiadurwr, mae Gavin Henson, y chwaraewr carismataidd a chwaraeodd ei gêm genedlaethol gyntaf yn 2001 a seren y tîm a gurodd Lloegr yn 2005, wedi chwarae rôl hollbwysig i drawsnewid y delweddau cyffredin o rygbi yng Nghymru:

He has almost single-handedly ushered the Welsh game out of the age of scrubbed-scalp, gap-toothed boyos into the new one of Cool Cymru peopled by those such as pop group Super Furry Animals and divas Katherine Jenkins and Charlotte Church.

(Henderson, 2005)

Wrth gwrs, mae llawer mwy nag un chwaraewr wedi effeithio ar sut mae rygbi yng Nghymru wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Mae wedi mabwysiadu ffurf newydd ac unigryw drwy ddod yn gêm broffesiynol a rhanbarthol a thrwy ei chartref newydd, sef Stadiwm y Mileniwm. Mae'r stadiwm yng nghanol dinas Caerdydd, y brifddinas, wedi dod yn un o eiconau'r ddinas ac yn un o symbolau'r genedl. Drwy edrych ar rygbi, gallwn geisio gwneud synnwyr o lawer o bethau ynglŷn â Chymru gyfoes.

Mae'n gyffredin i bobl uniaethu â'u gwlad yng nghyd-destun digwyddiadau chwaraeon mawr: mae'n haws dychmygu'r wlad pan fo'r tîm cenedlaethol yn chwarae yn erbyn gwlad arall (Hobsbawm, 1990). Mae rygbi yng Nghymru enghraifft hynod o dda o'r ffenomenon hon, oherwydd efallai mai rygbi yw'r prif beth sy'n uno pobl yng Nghymru. Mewn sawl ffordd, mae rygbi yng Nghymru yn diffinio Cymru a'r hyn y mae pobl yng Nghymru yn ei rannu. Y tu allan i Gymru hefyd, rygbi yw'r prif beth sy'n diffinio'r wlad gan fod y gamp o ddiddordeb eang ac yn un o'r ychydig bethau cadarnhaol y mae pobl o wledydd eraill yn ei gysylltu â Chymru. I bobl Cymru yn enwedig, ystyrir bod rygbi, a sêr y gamp, yn ymgorffori nodweddion a gwerthoedd hanfodol y genedl - cydraddoliaeth, meritocratiaeth, patriarchaeth a chymdeithas ddiddosbarth (Evans et al., 1999). Dywedir yn aml fod hwyliau neu hyder pobl Cymru, a Chymru fel cenedl, yn gwella ac yn gwaethygu yn unol â chanlyniadau'r tîm rygbi cenedlaethol.

Yn rhyfeddol efallai, nid oes nifer fawr o bobl yn chwarae nac hyd yn oed yn gwylio rygbi yng Nghymru - heblaw pan fo'r garfan genedlaethol yn chwarae (yn enwedig ym mhencampwriaeth y Chwe Gwlad [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ). Mae Ffigur 1 yn dangos y chwaraeon mwyaf poblogaidd yng Nghymru - nid yw'n cyfeirio at rygbi gan fod y ffigur mor isel nad yw wedi'i gynnwys hyd yn oed ar waelod y tabl. Mae 2.4 y cant o ddynion yng Nghymru yn chwarae rygbi, sef tua 1.2 y cant o'r boblogaeth. Mae pêl-droed a beicio mwy na phedair gwaith yn fwy poblogaidd, ac mae tua deg gwaith yn fwy o bobl yn nofio.

Mewn un ystyr, fodd bynnag, mae'r ffigurau hyn yn gamarweiniol oherwydd gallem wahaniaethu rhwng gweithgareddau hamdden neu adloniant (fel cerdded) a chwaraeon cystadleuol, ond mae'r ffin yn niwlog i raddau. Gallwn hefyd ystyried gwylwyr: mae tua theirgwaith yn fwy o bobl yn gwylio tîm Dinas Caerdydd yn chwarae pêl-droed o gymharu ag un o'r pedwar tîm rygbi rhanbarthol proffesiynol (Dreigiau Gwent, Gleision Caerdydd, y Gweilch a'r Sgarlets). Fodd bynnag, drwy ychwanegu'r gwylwyr teledu at hyn, gwelwn fod mwy o ddiddordeb torfol yn y gêm. (Heb os, mae'r ffaith bod mwy o gyfleoedd i wylio rygbi ar y teledu wedi lleihau nifer y gwylwyr sy'n mynd i'r gemau). Ond, er gwaethaf y lefelau isel o chwaraewyr (a hyd yn oed gwylwyr, sy'n is na'r lefel ryngwladol), drwy gefnogi'r tîm rygbi cenedlaethol y mae pobl yng Nghymru yn dangos eu bod yn perthyn i'r genedl a'i balchder ynddi. Nid yw hyn yn digwydd mewn perthynas â ffenomena a digwyddiadau diwylliannol eraill, fel yr iaith neu gerddoriaeth.

Cyngor Chwaraeon Cymru, 2009, t. 13
Ffigur 1 Y gweithgareddau chwaraeon mwyaf poblogaidd yng Nghymru

Gweithgaredd 1

Edrychwch ar Ffigur 2 sy'n dangos lluniau a gafodd eu cymryd yn Stadiwm y Mileniwm ar ddiwrnodau gemau rygbi rhyngwladol. Nodwch beth mae'r lluniau hyn yn ei ddweud wrthym am natur a rôl rygbi yng nghymdeithas a diwylliant Cymru.

  • Beth maen nhw'n ei ddweud wrthym am hunaniaethau a gwahaniaethau?

  • Pa ddelweddau neu bortreadau eraill sy'n gyffredin ar achlysuron o'r fath?

Ffigur 2 i) Prif Wenidog Cymru a phwysigion eraill mewn gêm rygbi ryngwladol; ii) Menywod mewn gêm rygbi ryngwladol gydag emblemau wedi'u paentio ar eu hwynebau a hetiau cennyn pedr iii) Charlotte Church, Max Boyce a Katherine Jenkins yn canu yn Stadiwm y Mileniwm ar ddechrau gêm rygbi ryngwladol.

Nid wyf yn honni fy mod yn rhoi cofnod diffiniol o ffenomenon rygbi yng Nghymru o safbwynt y gwyddorau cymdeithasol, ond yn yr adran hon rwy'n defnyddio'r gamp fel ffordd o gyflwyno agweddau craidd ar wahaniaethau a chysylltiadau yn y Gymru gyfoes.