Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Gwahaniaeth

Caiff cymunedau eu creu gan syniadau pobl o'r tu mewn a'r tu allan iddynt; maent yn dwyn pobl ynghyd a hefyd yn eu heithrio. Bu'n rhaid i Gymru ddiffinio ei hun bob amser mewn perthynas â Lloegr, ei chymydog mwy pwerus. Dyma un rheswm pam y gellir ystyried bod Cymru (yn enwedig ar ddiwrnodau gemau rhyngwladol) yn genedl gydryw a bod ei phobl yn rhannu set graidd o nodweddion a gwerthoedd. Fodd bynnag, efallai bod y rhaniadau, yr amrywiaeth neu'r gwahaniaethau sydd i'w gweld yng Nghymru yn bwysicach na'r hyn sydd gan bobl yn gyffredin. Pan edrychwn ar y gwahaniaethau hyn, rydym yn gweld delwedd tipyn yn wahanol o Gymru a delwedd sy'n sicr yn llai cydlynol. Fel yr eglurodd Nicky Wire o'r Manic Street Preachers:

You have to be wary of romanticism. Wales is a much more complex and divided place than some people think. It isn’t this glowing ember of close-knit communities. There’s animosity there too. Some North and West Walians resent us talking about Welshness because we can’t speak Welsh.

(Wire, 1998)

Mae'r adran hon yn rhoi sylw i wahaniaethau penodol yn y Gymru gyfoes, sef lle, gwaith, rhywedd a 'hil', a dosbarth.