2 Lle a pherthyn
Graham Day
Wrth ysgrifennu'r adran hon, bu'n rhaid imi deithio ar y trên sawl gwaith o Fangor yn y gogledd i'r brifddinas, Caerdydd. Mae'r daith yn cymryd rhai oriau ac yn dechrau ar hyd arfordir y gogledd gan wibio heibio i'r cyrchfannau glan-môr amrywiol iawn yn Llandudno, y Rhyl a Phrestatyn. Weddill yr amser, mae'r trên yn dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr, drwy gyfres o drefi marchnad hanesyddol yng Nghymru a Lloegr, gyda golygfeydd a thirweddau gwledig godidog ar bob ochr. O'r diwedd, rydych yn cyrraedd dinasoedd mawr y de - Casnewydd yn gyntaf ac wedyn Caerdydd. Bron bob tro y byddaf yn siarad â phobl yng Nghaerdydd am y daith, byddant yn dweud nad ydynt wedi bod i'r gogledd yn aml iawn neu nad ydynt byth wedi bod yno. Drwy fynd o un pen o Gymru i'r llall fel hyn, pellter cymharol fyr o dua 230 o filltiroedd, gallwn weld rhai amrywiadau mawr iawn yn hanes, cyflwr a phrofiadau lleoedd a phobl wahanol. Yn dibynnu ar ble rydych, gall Cymru edrych yn lle gwahanol iawn.
Er ei bod yn wlad fach, mae Cymru yn amrywiol ac weithiau, caiff ei rhannu gan ei gwahaniaethau cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol, yn ogystal â'i gwahaniaethau daearyddol.
Mae'r adran hon yn archwilio rhai o'r prif amrywiadau rhanbarthol yng Nghymru.
Gweithgaredd 3
Meddyliwch am beth rydych yn ei wybod yn barod am Gymru, a'r ffordd y mae wedi'i rhannu'n fathau gwahanol o leoedd a chymunedau.
Beth yw'r prif wahaniaethau sy'n dod i'r meddwl?
I ba raddau rydych chi'n gyfarwydd â Chymru - a oes rhannau o Gymru rydych yn eu hadnabod a'u deall yn dda iawn?
A oes rhannau eraill nad ydych yn gyfarwydd iawn â nhw, sydd y tu allan i'ch 'map meddyliol'?
Pam?
Gadael sylw
Byddai fy ateb fy hun yn cynnwys y ffaith bod rhai rhannau o Gymru yn Gymraeg iawn, tra bod y Saesneg yn llawer mwy cyffredin mewn ardaloedd eraill. Mae rhai amrywiadau rhanbarthol amlwg o ran lleferydd ac acenion hefyd. Mae rhannau helaeth o Gymru yn wledig a thenau eu poblogaeth, a cheir ardaloedd o ddiffeithwch bron a harddwch naturiol eithriadol. Ond mae yna leoedd â hanes o ddatblygu diwydiannol anhygoel, yn ogystal â dirywiad. Mae clystyrau o gyfoeth sylweddol, gyda buddsoddiad mewn rhai datblygiadau pensaernïol ac amgylcheddol cyffrous newydd, ynghyd â mannau sy'n adnabyddus am broblemau o ran amddifadedd, tlodi ac esgeulustod. Mae gennym ganol trefi hanesyddol, a lleoedd sy'n adnabyddus am dreftadaeth Gymreig, ond ceir hefyd lawer o ystadau tai a diwydiannol newydd, canolfannau siopa a lleoedd sy'n ymddangos nad oes ganddynt fawr o gymeriad o gwbl. Ar ôl treulio'r rhan fwyaf o'm bywyd yn ardaloedd gwledig y gogledd a'r gorllewin, rwy'n llai cyfarwydd â'r de a'r Cymoedd mwy diwydiannol, a all ddylanwadu ar y ffordd rwy'n gweld y wlad yn ei chyfanrwydd.
Er ei bod yn wlad fach, mae llawer o amrywiaeth i'w weld yng Nghymru, o ran:
amrywiadau daearyddol a ffisegol
datblygiad cymdeithasol a hanesyddol
gwahaniaethau o ran cyfoeth ac amddifadedd cymharol.
Yn yr adran hon, byddwch yn ystyried sut y gall yr ymdeimlad o 'fod yn Gymro/Cymraes' amrywio rhwng rhanbarthau gwahanol Cymru.