Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9.1.2 Adfywiad ffilmiau Cymreig?

O ran sinema Saesneg yng Nghymru, ymddangosai fel petai 1997 yn mynd i fod yn drobwynt. Rhyddhawyd tair ffilm nodwedd eithaf proffil uchel gan gyfarwyddwyr ifanc ac ymddangosai fel petai addewid o egin-ddiwylliant ffilm a fyddai'n ymestyn yn raddol bresenoldeb Cymru ym myd sinema rhyngwladol. Roedd House of America (cyf. Marc Evans), Twin Town (cyf. Kevin Allen) a Darklands (cyf. Julian Richards) yn wahanol iawn i'w gilydd o ran naws a thestun, ond roedd pob un yn ceisio 'ailddarllen' rhai o'r ffyrdd traddodiadol o weld Cymru fel y'u cafwyd yn nhraddodiad How Green Was My Valley

O'r tair, Twin Town (Ffigur 21) a gyrhaeddodd y gynulleidfa fasnachol fwyaf ac mae ei brand o hiwmor amharchus wedi sicrhau ei bod yn dal i werthu cryn nifer o DVDs. Fodd bynnag, nid oedd pawb yn fodlon ar ei phortread o Gymru a'r Cymry, ac mae ei hysbyslun ar-lein yn rhoi amcan o'i hymagwedd tuag at unrhyw syniad traddodiadol o ddiwylliant Cymru:

Rugby. Tom Jones. Male Voice Choirs. Shirley Bassey.

Llanfairpwllgyngyllgogerychwyndrobwllllantisiliogogogoch.

Snowdonia. Prince of Wales. Anthony Hopkins. Daffodils. Sheep.

Sheep Lovers. Coal. Slate quarries. The Blaenau Ffestiniog Dinkey-

Doo Miniature Railway. Now if that’s your idea of thousands of years of Welsh culture, you can’t blame us for trying to liven the place up a little can you?

(Twin Town, 1997)
Archif Ronald Grant
Ffigur 21 Poster Twin Town (cyf. Kevin Allen, 1997)

Mae'n eithaf amlwg felly bod y ffilm yn edrych ar yr elfennau traddodiadol o bortreadu Cymru mewn ffordd amharchus, rhywbeth a ddigiodd nifer o bobl, gan gynnwys clerigwyr a Bwrdd Croeso Cymru (Morris, 1998, t. 27).

I wrthbwyso'r feirniadeth hon, dadleuodd eraill fod Twin Town yn nodi aeddfedrwydd diwylliannol newydd wrth i Gymru ddod yn ddigon hyderus i chwerthin am ben parodi o'i heiconau diwylliannol ei hun yn debyg i'r ffordd y cafodd y Gwyddelod eu portreadu yn y gyfres ddrama deledu Father Ted (Perrins, 2000).

Roedd House of America yn bortread llawer mwy cynnil o hunaniaeth Gymraeg a oedd yn newid. Roedd y ffilm, a addaswyd gan Ed Thomas o'i ddrama lwyfan o'r un enw, unwaith eto'n defnyddio rhai o'r ystrydebau arferol i bortreadu Cymru - teulu, cymuned pwll glo, y fam - a chraffu arnynt mewn ffordd farddonol drwy gyfrwng obsesiwn y prif gymeriad gydag agweddau allweddol ar ddiwylliant Americanaidd. Unwaith eto, gwelir hen Gymru yn darfod o'r tir a brwydr i ddychmygu un newydd, y tro hwn, brwydr sy'n digwydd yn erbyn cefndir diwylliant Americanaidd hollbresennol o'n hamgylch.

Dywedodd cyfarwyddwr House of America, Marc Evans, ‘In some ways House of America and Twin Town were not the first of a new generation of films but the last of the old’ (Evans, 2002, t. 290–1) yn yr ystyr eu bod yn dal i ymhél ag ystrydebau o hen Gymru, hyd yn oed wrth iddynt eu tanseilio. O ystyried hynny, yna efallai y gallwn ystyried ffilm ddiweddarach a llai sylweddol, Human Traffic Justin Kerrigan (1999), fel y ffilm nodwedd Gymreig gyntaf i wir gefnu ar y gorffennol a chynnig ffordd newydd o ddychmygu bod yn ifanc ac yn Gymry wrth i ni nesau at y milieniwm. Nodwyd yr ymgais hon i gefnu ar bortreadau traddodiadol y gorffennol yn un o'r adolygiadau cynnar o'r ffilm:

Just as Trainspotting makes a clean break with the traditional Scotland of tartanry and kailyard, of Scott and Barrie, so Human Traffic turns its back on the Wales of male voice choirs and the whimsical humour of The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain... it seems more like an American picture than a British one ...

(French, 1999)

O'r braidd bod Human Traffic yn ymwneud â phortreadu hunaniaeth genedlaethol mewn unrhyw ffordd amlwg. Mae'n dangos grŵp o ffrindiau ifanc mewn swyddi heb ddyfodol wrth iddynt ysu am y penwythnosau sy'n cael eu treulio yn y sîn clybio hedonaidd a oedd yn nodweddiadol ar ddiwedd y 1990au. Mae'r ffaith ei bod wedi'i lleoli yng Nghaerdydd yn hytrach na Llundain, Birmingham neu Fanceinion fel petai'n cynnig y syniad bod Cymru yn dechrau rhoi'r gorau i synfyfyrio ar hunaniaeth hanfodaethol hŷn ac yn hytrach na hynny y gall ei phob ifanc deimlo cysylltiad â diwylliant rhyngwladol ehangach.

I ryw raddau roedd y cyfnod ar ddiwedd y nawdegau yn gyfnod o addewid wag yn yr ystyr nad yw nifer y ffilmiau nodwedd sy'n dod o Gymru wedi cynyddu yn ôl y gobaith. Eto i gyd, cafwyd enghreifftiau pwysig o ffilmiau a oedd yn ceisio edrych unwaith eto ar fywyd yng Nghymru mewn ffyrdd a wnaeth gyfraniad sylweddol tuag at y ffordd roedd y wlad yn gweld ei hun yng nghyd-destun ei grym gwleidyddol newydd. Gorffennwn yn yr adran hon drwy edrych ar un o'r rhain oherwydd y ffordd benodol y ceisiodd y ffilm hon fynd ati i archwilio hunaniaeth Gymreig.