9 Cynrychiolaeth ddiwylliannol
Steve Blandford
Yn yr adran hon byddwn yn ystyried rhai o'r ffyrdd pwysig y mae Cymru wedi cael ei chynrychioli neu ei phortreadu, ym myd sinema ac ar y teledu, yn ddiweddar. Edrychwn ar yr effaith y mae hyn wedi'i chael ar fywyd y wlad a'r ffordd y mae Cymru yn cael ei 'dychmygu' o fewn ffiniau Cymru a thu hwnt.
Fel man cychwyn, un ffordd o feddwl am y ffordd y portreadir [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] unrhyw wlad yw drwy'r syniad o 'ddychmygu 'gwlad i fodolaeth. Mae Imagined Communities Benedict Anderson (1983) yn llyfr sydd wedi chwarae rhan allweddol mewn ymdrechion i esbonio'r syniad o 'genedlaetholdeb' yn gyffredinol a rôl diwylliant i greu gwlad yn benodol. Mae syniadau Anderson o bwys canolog i'r ffordd rydym yn edrych ar y ffordd y caiff Cymru ei phortreadu yn yr adran hon.
Gellir dadlau bod y syniad o 'ddychmygu' ein cymuned o ddiddordeb penodol i bobl sy'n byw mewn lleoedd lle mae creu gwlad (neu ei chreu'n rhannol) wedi digwydd yn ddiweddar iawn drwy'r broses o ddatganoli, ond lle mae'r 'syniad' o wlad wedi bodoli'n llawer hirach ac mewn ffyrdd sydd wedi helpu i ffurfio bywydau'r rhai sy'n byw yno mewn ffyrdd dwfn.