Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8 Cynrychiolaeth wleidyddol

Anwen Elias

Cynrychiolaeth wleidyddol yw un o nodweddion creiddiol unrhyw gyfundrefn ddemocrataidd fodern, a drefnir ar sail egwyddor craidd rheolaeth y bobl, a hynny am ein bod yn ethol cynrychiolwyr o bryd i'w gilydd sy'n gwneud penderfyniadau gwleidyddol ac yn gweithredu polisïau ar ein rhan. Ond mae cynrychiolaeth wleidyddol hefyd yn fater dadleuol. Mae gwyddonwyr gwleidyddol a gwleidyddion yn anghytuno ar gwestiynau allweddol ynglŷn â chysyniad sylfaenol cynrychiolaeth wleidyddol, megis pwy ddylai gael ei gynrychioli, pwy ddylai fod yn cynrychioli a pha fatho gynrychioliaeth sy'n ddymunol.

Mae'r adran hon yn ystyried sut yr ymdriniwyd â rhai o'r cwestiynau hyn ynglŷn â chynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru. Yn benodol, byddwn yn ystyried sut yr arweiniodd pryderon ynglŷn ag ansawdd cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru erbyn canol y 1990au at raglen fawr o ddiwygio cyfansoddiadol – datganoli – a chreu corff newydd a etholir yn ddemocrataidd, Cynulliad Cenedlathol Cymru. Roedd cefnogwyr datganoli yn ystod canol y 1990au yn ystyried hyn yn broses a fyddai'n cyflwyno math newydd o wleidyddiaeth yng Nghymru, un a fyddai'n cael ei nodweddu, yn anad dim, gan ei natur gynhwysol. Mae'r adran hon yn ystyried a yw gwleidyddiaeth Cymru wedi dod yn fwy cynhwysol ers hynny mewn gwirionedd a'r graddau y mae datganoli wedi gwella ansawdd cynrychiolaeth wleidyddol yng Nghymru.