Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10 Casgliad y cwrs

Hugh Mackay

Yn ystod y cwrs hwn, rydych wedi ystyried llawer o bynciau, y mae pob un ohonynt yn helpu i ddangos y priodwedau sydd wedi creu Cymru fel y mae heddiw.

Byddwch wedi darganfod:

  • sut mae rygbi'r undeb yn brif ffocws hunaniaeth genedlaethol

  • pam mae Cymreictod yn golygu llawer mwy na daearyddiaeth yn unig – mae'r diwylliant, yr iaith a ffactorau eraill oll yn chwarae eu rhan hefyd

  • sut mae economi Cymru wedi addasu ac wedi datblygu wrth i ddiwydiannau ffynnu, darfod a chael eu disodli.

  • sut mae hil a rhyw yn agweddau pwysig ar wahaniaeth yng Nghymru, sut mae polisïau wedi mynd i'r afael â hwy, a chyfyngiadau'r polisïau hyn.

  • rhai ffyrdd allweddol y mae'r Gymraeg yn uno ac yn rhannu

  • sut mae mudiad cenedlaetholgar Cymru wedi chware rhan allweddol nid yn unig o ran yr iaith a gwleidyddiaeth Plaid Cymru, ond o ran dylanwadu ar y Blaid Lafur.

  • sut mae traddodiadau llafur wedi ymwreiddio'n ddwfn yng ngwleidyddiaeth a diwylliant Cymru

  • sut mae pobl yng Nghymru ac yn y Blaid Lafur, wedi ystyried San Steffan mewn ffyrdd gwahanol, ond bu datganoli a ffurfio Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'i lywodraeth yn 1999 yn gam mawr ar y llwybr tuag at berthynas newydd a thrawsnewidiol.

  • twf cynhyrchu ffilmiau a theledu yng Nghymru, gyda sianel deledu S4/C a rhaglenni megis Doctor Who yn dangos y genedl mewn goleuni modern, newydd o amgylch y byd.

Mae Cymru fel cenedl wedi dod yn fwy amlwg ac mae ei phobl yn fwy hyderus o ran eu hunaniaeth genedlaethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yn sgil datganoli. Fodd bynnag, fel y byddwch wedi darllen, mae llawer o faterion y mae angen mynd i'r afael â hwy er mwyn cyflawni uchelgeisiau ei harweinwyr. Efallai ei bod yn rhan fach o'r Deyrnas Unedig, ond mae Cymru yn wlad ac iddi ei hunaniaeth ei hun ac – yn llythrennol, gyda'r iaith – ei llais ei hun.

Gellir dod o hyd i ragor o gyrsiau a chymwysterau yn Gymraeg yma. [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]