9.1 Sinema a Chymru
I lawer o bobl, bydd y ffordd y mae Cymru wedi cael ei phortreadu ym myd sinema bob amser yn gysylltiedig i ryw raddau ag addasiad Hollywood o nofel Richard Llewellyn How Green Was My Valley(cyfarwyddwr John Ford) yn 1941, a enillodd Wobr yr Academi am y ffilm orau. I Kate Woodward, ‘Ford’s film spawned a million clichés about terraced streets and black faced miners, singing on their way home from the pit ... Ford’s Welsh valley, created in the San Fernando Valley in Malibu, was sanitized of all traces of dust and dirt, and Hollywoodized beyond all recognition’ (Woodward, 2006, t. 54–5).
Fodd bynnag, yn ystod y 1990au ac yn y cyfnod ers datganoli bu ymdrechion mawr yn Gymraeg ac yn Saesneg i greu diwylliant sinema cyfoes yng Nghymru a oedd yn osgoi ystrydebau o'r fath ac a oedd yn anelu at ymdemlad mwy amrywiol o'r wlad a'i lle newydd yn y byd.