Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9.2 'Ffugchwedlau' teledu a Chymru

O ran nifer y bobl sy'n gallu eu gweld, y portreadau o Gymru ar y teledu sy'n cael yr effaith fwyaf arwyddocaol a thebygol o bell ffordd. Yn yr adran hon, edrychwn yn benodol ar y ffordd y mae rhaglenn ffuglennol yn arwyddocao o ran portreadu Cymru.

Ar ddechrau'r degawd, bu'n gŵyn gyson yng Nghymru bod y wlad yn cael ei gweld yn llawer rhy brin ar raglenni teledu Prydeinig, hyd yn oed o gymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon (gweler Blandford, 2005). Roedd teimlad hirsefydlog (sy'n bodoli o hyd ymhlith rhai) bod Cymru fel gwlad, ac felly fel cynhyrchydd teledu a ddarlledir, yn cael ei thrin yng nghanolfannau grym gyda llawer mwy o amheuaeth a diffyg ymddiriedaeth na gwledydd a rhanbarthau eraill y DU.

Mae achos drama yn Gymraeg yn wahanol am ei bod yn cael ei chynhyrchu i raddau helaeth yng Nghymru, i gynulleidfaoedd o Gymru, ond mae'n deg dweud, yn hynny o beth, fod problem wahanol wedi codi. Ar ddiwedd y 1990au, ystyriwyd bod portreadau S4C o Gymru yn aml yn hen ffasiwn ac yn gul (gweler, er enghraifft, Gramich, 1997, tu. 106).

Er y byddai'n camliwio'r sefyllfa pe honnid bod popeth wedi trawsnewid dros ddegawd, yn sicr mae'n bosibl honni erbyn hyn bod amrywiaeth ac ansawdd portreadau o Gymru mewn rhaglenni teledu yn y ddwy iaith wedi gwella ac yn debygol o wella ymhellach.