9.2.3 Gavin and Stacey
Er nad yw'n cael ei wneud yng Nghymru, mae cyfres gomedi'r BBC Gavin and Stacey (2007) yn cynnig un portread o Gymru a'r Cymru sydd wedi cyrraedd y proffil uchaf posibl. Dywedodd Rob Brydon, un o brif actorion y rhaglen Gavin and Stacey, ‘What it’s done is create a version of Wales that’s palatable to everyone, something which I don’t think anyone’s managed before’ (Jewell, 2009, t. 62).
Mae'n debyg bod sylwadau Brydon yn deillio o natur wresog a hael anarferol y gyfres, yn nhyb y rhan fwyaf o bobl, o fewn genre sydd wedi mynd yn gynyddol sinigaidd a dibynnol ar gellwair ymosodol. Os yw hynny'n golygu bod Gavin and Stacey yn ymddangos ychydig yn diddrwg-didda, mae'n werth ystyried y farn hon gan un o gymeriadau mwyaf adnabyddus y gyfres o bosibl sy'n dod o Gymru:
Large and masculine, sexual and feminine, Nessa’s Welshness is overt and tangible, with her upper arm decorated with a tattoo of a Welsh dragon. It can be reasonably argued that Nessa is a breakthrough character in British situation comedy history – here is a woman who is unconventionally attractive, sexually voracious and clearly independent of any male influence.
I ryw raddau, mae creu cymeriad Nessa (Ruth Jones) yn nodweddiadol o allu Gavin and Stacey i wyrdroi disgwyliadau. Os yw comedi sefyllfaol confensiynol wedi defnyddio merched mwy o faint fel cyff gwawd yn draddodiadol, yna mae Gavin and Stacey yn gosod un yng nghanol pob peth. Gellir dadlau, o bosibl, fod Cymreictod Nessa yn eilaidd i'r hyn sydd ganddi i'w ddweud am rywedd, ond mae'r ffaith bod Ruth Jones, merch sy'n amlwg yn dod o Gymru, nid yn unig yn chwarae'r cymeriad ond sydd hefyd yn gyd-awdur ar y gyfres yn gwneud cyfraniad pwerus i newid canfyddiadau nid yn unig o'r amrywiaeth o bosibiliadau i ferched mewn comedi sefyllfaol, ond i hunaniaeth Gymreig hefyd.
Mae Gavin and Stacey yn cynnig gweledigaeth o Gymru drwy gyfrwng comedi hynod lwydiannus sy'n cynnwys llawer o nodweddion traddodiadol Cymru – cymuned leol gadarn, cysylltiadau teuluol agos ac ati. Yn wir, mae'r cymeriadau yn Gavin and Stacey yn cynnig portreadau o fywyd yng Nghymru sydd, yn eu tro, yn wresog, yn hael ac yn hynod wyrdroedig.