7 Traddodiadau Llafur
Ychydig iawn sy'n digwydd yng Nghymru sy'n rhagweladwy – yn sicr nid y tywydd, ffawd y timau chwaraeon cenedlaethol na'r economi. Fodd bynnag, dros y ganrif ddiwethaf, bu un eithriad. Os cawsoch eich geni unrhyw bryd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, efallai na allech gynllunio barbiciw, gosod bet ddiogel ar ganlyniad gêm o bêl-droed yng Nghymru, na darogan rhagolygon economi Cymru, ond gallech, yn eithaf hyderus, ragweld y byddai Llafur yn ennill y rhan fwyaf o seddau yng Nghymru mewn unrhyw etholiad cyffredinol.
O'r 1920au ymlaen, y Blaid Lafur fu'r blaid bennaf yng ngwleidyddiaeth Cymru, gan ennill y rhan fwyaf o seddau seneddol am y tro cyntaf yn 1923 a churo ei gwrthwynebwyr yn ddidrafferth ar sawl achlysur arall (yn enwedig, fel y gwelwn, yn 1966 pan enillodd y blaid 32 allan o'r 36 o seddau ac unwaith eto yn 1997 pan enillodd 34 allan o 40).
Nid yw'n syndod felly bod haneswyr, sylwebyddion gwleidyddol a chymdeithasegwyr, yng Nghymru a thu hwnt, wedi dod yn gyfarwydd â gweld gwleidyddiaeth Cymru drwy lens coch 'Llafur Cymru'. Ym myd trafodaeth gyhoeddus, mae 'Llafur Cymru' yn gysylltiedig â'r de diwydiannol, capeli, pyllau glo, tai teras, clybiau dynion gweithiol, corau meibion a thraddodiadau balch dosbarth gweithiol diwydiannol. Mae'r ffaith nad oedd llawer o bobl yng Nghymru yn pleidleisio i Lafur – roedd tua un o bob pum pleidleisiwr yng Nghymru yn pleidleisio i'r Ceidwadwyr yn rheolaidd ar ôl 1918 – yn cael ei hanwybyddu gan lawer. Ers gormod o amser mae'r ffaith ynglŷn â delwedd 'Llafur Cymru' a amlinellir uchod yn gamarweiniol: bodolodd Llafur a'r traddodiad Llafur (a chafodd lwyddiant) i ffwrdd o'r de, mewn ardaloedd gwledig, ac yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith.
Fodd bynnag, yn 2009, ymddangosai fel petai nad oedd 'Llafur Cymru' yn ddiogel mwyach. Mae canlyniadau etholiadau a barn y cyhoedd yn awgrymu bod y traddodiad Llafur yn edwino. Yn etholiad Ewropeaidd 2009, cipiodd Llafur 20 y cant yn unig o'r bleidlais, ar ôl perfformiad siomedig yn etholiadau 2007 Cynulliad Cymru pan gipiodd 32 y cant yn unig o'r bleidlais. Yn 2009, awgrymodd arolwg barn y gallai Llafur gael 26 y cant yn unig o'r bleidlais yng Nghymru mewn etholiad cyffredinol, sef llai na'r Ceidwadwyr (30 y cant) am y tro cyntaf yn yr oes ddemocrataidd (Kettle, 2009).
Cafodd y problemau a wynebai Llafur gan y newyddiadurwr Martin Kettle yn The Guardian:
Let’s not mince words. If those figures are even approximately right, Wales would experience a political and existential earthquake ... it would massively challenge aspects of the way that many in Wales see themselves and their nation ... in the twentieth century, the electoral geography of Wales was predictable. Labour held the heavily populated old industrial south from Newport across to Llanelli and through the mining valleys ... but it is all to change now...
Yn ymarferol, bu Kettle yn gyfeiliornus: Cafodd Llafur 36% o'r bleidlais yn etholiad cyffredinol 2010, o gymharu â 26% gan y Blaid Geidwadol. Fodd bynnag yn yr etholiadau Ewropeaidd yn 2014 gostyngodd cyfran Llafur i 28% - gyda'r Ceidwadwyr yn ennill 17% ond UKIP yn ennill 27.5%.