Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Y Gymru Gyfoes
Y Gymru Gyfoes

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Gwaith

Dave Adamson

Mae'r adran hon yn edrych ar fyd gwaith yng Nghymru. Ei phrif amcan yw datblygu dealltwriaeth o'r gydberthynas rhwng newidiadau economaidd yng Nghymru a phatrymau gwaith a chyflogaeth sydd wedi dod i'r amlwg ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae economi Cymru wedi newid yn gyflym yn ystod y cyfnod hwn ac mae bywyd gwaith wedi newid hefyd. Mae'r diwydiannau a'r gweithgareddau a arferai ddominyddu economi Cymru wedi diflannu bron ac mae globaleiddio economaidd [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ac arloesed technolegol wedi cyflwyno patrymau gwaith a chyflogaeth newydd. Mae newidiadau mawr wedi digwydd i strwythur y gweithlu ac amodau gwaith pobl.

Mae'r adran hon yn ystyried siâp a natur economi gyfoes Cymru a'r patrymau gwaith sy'n deillio ohoni. Er mwyn gwneud synnwyr o ran helaeth o fywyd cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol yng Nghymru, rhaid deall cryfderau a gwendidau economi Cymru. Un o brif dasgau Llywodraeth Cymru yw creu sylfaen economaidd gadarn er mwyn cyflawni llawer o'i hamcanion cymdeithasol a diwylliannol. Fodd bynnag, mae gwendidau strwythurol allweddol yn economi Cymru sy'n ei gwneud hi'n anodd iawn i Gymru gael yr un cyfoeth a ffyniant o gymharu â gweddill y DU.