Drwy edrych ar wahaniaethau a chysylltiadau, mae'r cwrs yn gofnod awdurdodol a diweddar o economi, cymdeithas, gwleidyddiaeth a diwylliant Cymru gyfoes ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o astudiaethau achos diddorol.
Deilliannau dysgu'r cwrs
Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:
deall rhai o'r prif gysyniadau ym maes y gwyddorau cymdeithasol, e.e. rhaniadau, hunaniaethau, cynrychiolaeth, fel cyflwyniad cyffredinol i bynciau'r gwyddorau cymdeithasol
deall y cysyniadau craidd ynglŷn â threfn, prosesau llywodraethu a newid cymdeithasol yng Nghymru ar ôl y rhyfel
deall yr amrywiaeth, yr anghydraddoldebau a'r gwahaniaethau sy'n bodoli yng Nghymru a'u goblygiadau ar gyfer hunaniaethau a mudiadau gwleidyddol
defnyddio tystiolaeth a dadleuon i gymharu a beirniadu ffyrdd gwahanol o ddeall y Gymru gyfoes
deall sut y gallwch ddefnyddio cysyniadau a dulliau'r Gwyddorau Cymdeithasol i ddadelfennu'r ddealltwriaeth gyffredinol am faterion sy'n ymwneud â Chymru.