Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae'r uned hon yn ystyried y materion sy'n bwysig wrth ddechrau neu redeg busnes bach mewn amgylchedd gwledig.

Mae'r modelau busnes traddodiadol yn berthnasol i'r broses o redeg busnes mewn unrhyw leoliad. Bydd yr uned hon yn eich cyflwyno i rai syniadau a fydd yn eich helpu i weithio allan yr hyn rydych am ei wneud gyda'ch syniad busnes. Bydd yn gofyn i chi ystyried yr effaith y mae byw mewn lleoliad gwledig yn ei gael ar eich busnes ac i ystyried beth sy'n bwysig i chi.

Dyma rai cymeriadau a fydd yn cadw cwmni i ni drwy gydol yr uned. Mae gan bob un ohonynt gynnig gwahanol sy'n wynebu heriau penodol oherwydd y cyd-destun gwledig.

Mae Euan yn gweithio ar fferm y teulu ac mae am wneud mwy o incwm drwy arallgyfeirio y tu allan i weithgareddau ffermio traddodiadol.

Mae Gwyneth yn gogyddes frwd. Mae'n gweithio mewncaffi yn y dref, ond mae ei horiau gwaith wedi cael eu torri. Er mwyn ychwanegu at incwm y teulu, mae am werthu ei jamiau, ei siytnis a'i chyffeithiau cartref mewn marchnadoedd ffermwyr a ffeiriau bwyd.

Mae Julia, myfyrwraig Addysg Bellach, yn byw gyda'i theulu mewn ardal anghysbell lle mae'r Swyddfa Bost a siop y pentref dan fygythiad. Mae angen iddi gymryd rhan mewn gweithgarwch menter tîm fel rhan o'i chymhwyster Bagloriaeth Cymru ac fe'i hysbrydolwyd gan ddigwyddiadau menter a darlithoedd a fynychwyd yn y coleg. Gyda chymorth staff yn Swyddfa'r Post, mae hi am arwain trigolion lleol mewn cais i redeg Swyddfa'r Post a'r siop a'u rhedeg fel siop gymunedol.

Mae Dafydd yn ffermwr defaid sydd, ynghyd â'i wraig Ffion, yn gweithio oddi ar y fferm er mwyn ychwanegu at yr incwm ffermio. Mae Dafydd am arallgyfeirio i'r busnes rhentu tai gwyliau drwy droi tri beudy nad ydynt yn cael eu defnyddio yn llety hunan-arlwyo eco-gyfeillgar.

Mae Gwenllian yn athrawes ieithoedd sy'n byw mewn ardal gymharol wledig yng nghanolbarth Cymru lle mae cael mynediad i ddysgu yn anos (pellteroedd pell, cludiant cyhoeddus gwael ac amserlenni anhyblyg). Mae wedi gweld bod galw am wasanaethau datblygu proffesiynol parhaus o ran iaith a gwasanaethau cyfieithu ymhlith busnesau lleol sy'n allforio eu cynhyrchion i gyfandir.

Beth bynnag fo'ch cymhelliant dros ddilyn yr uned astudio hon, bydd yn eich tywys ar daith a fydd yn edrych ar yr heriau sy'n eich wynebu os ydych yn byw mewn amgylchedd gwledig ac yn eich ysgogi i feddwl am sut y gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i redeg busnes llwyddiannus o'ch dewis.