Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3 Adnoddau

Byddwn yn arddel safbwynt sy'n seiliedig ar adnoddau ac yn edrych ar y rhyngweithio rhwng adnoddau cwmni a'i amgylchedd. Mae adnoddau'n cyfeirio at asedau sy'n benodol i gwmni sy'n anodd i'w hefelychu (e.e. oherwydd gwybodaeth ddealledig neu ddilafar sy'n bodoli ond nad yw bob amser yn hollbwysig) yn wahanol i fewnbynnau heb wahaniaeth fel gweithwyr heb sgiliau a chyfalaf. Mae'r modd y mae rheolwyr yn ystyried y rhyngweithio rhwng yr adnodd a'r amgylchedd yn llunio'r strategaethau a ddewisir gan y cwmni. Felly, mae'r cwmni yn gyffredinol yn meithrin mantais gystadleuol gynaliadwy, gan ddysgu am y prosesau sy'n trosi'n wybodaeth a sgiliau sy'n anodd i'w hefelychu ac y gellir eu cymhwyso at fathau amrywiol o farchnadoedd a chynhyrchion.

Adnoddau cwmni yw'r asedau diriaethol ac anniriaethol y mae'n berchen arnynt neu y gall eu defnyddio e.e. offer a chyfarpar, gweithwyr, peiriannau, y swm o arian sydd ynghlwm wrth gyfalaf sefydlog, stociau a chyfrifon cynilo. Mae ased diriaethol yn rhywbeth y gallwch ei gyffwrdd, fel adeilad neu beiriant. Mae ased anniriaethol yn rhywbeth sy'n llai ffisegol, fel gwybodaeth ac arbenigedd staff (cyfalaf dynol). Fodd bynnag, nid yw'r asedau na'r adnoddau hyn ar eu pen eu hunain yn rhoi'r darlun cyflawn. Y modd y cânt eu defnyddio sy'n gwneud y gwahaniaeth, a gelwir hyn yn alluogrwydd y cwmni.

Felly, os mai'r adnoddau yw'r mewnbynnau ffisegol, ariannol a dynol sy'n ofynnol er mwyn gwireddu eich syniad, yna eich galluoedd yw'r sgiliau, y wybodaeth a'r gallu i gydgysylltu a gwneud defnydd effeithiol o'ch adnoddau. Mae dadansoddi eich syniad o ran gweithrediadau, tasgau, galluoedd ac adnoddau nid yn unig yn rhoi mwy o eglurder ond mae hefyd yn gam hanfodol yn y gwaith o'i droi'n cynnyrch go iawn.

Nid yw hyn yn golygu bod yn rhaid i'r holl adnoddau angenrheidiol fod o fewn eich sefydliad. Efallai y byddai'n well gennych weithredu ar eich pen eich hun o'ch cartref, neu gyda thîm o gydweithwyr sydd wedi'u trefnu'n llac, neu fel sefydliad rhithwir sy'n gysylltiedig drwy'r rhyngrwyd, neu, yn wir, efallai y byddwch am ddechrau eich cwmni eich hun sy'n cyflogi eraill neu hyd yn oed werthu'r syniad arloesol i gwmni sy'n bodoli eisoes. Pa ffurf bynnag sy'n iawn, yn eich barn chi, i weithredu eich syniad, mae busnes yn weithgarwch cymdeithasol a bydd angen adnoddau arnoch yn ogystal â'ch gwybodaeth a'ch sgiliau eich hun.

Mae'n gyffredin i fusnesau gwledig gefnogi ei gilydd yn y ffordd hon. Yn wir, mae llawer yn gweithredu system cyfnewid lle maent yn cyfnewid nwyddau neu wasanaethau mewn ffordd gost-effeithiol. Mae'r cwmnïau hyn yn dod o hyd i'w gilydd drwy rwydweithiau lleol; maent yn meithrin ymddiriedaeth ac yn gwneud busnes gyda'i gilydd (cyfalaf cymdeithasol).

Gadewch i ni ddechrau drwy edrych ar yr adnoddau hollbwysig sydd gennych eisoes - chi eich hun a'r bobl rydych yn eu hadnabod.