Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
Cwrs am ddim

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Datganiad cyfranogiad am ddim wrth i chi gwblhau
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru Eicon yn rhydd rhag hawlfraint

Beth yw'r materion pwysig i'w hystyried wrth ddechrau neu redeg busnes bach mewn amgylchedd gwledig? Bydd yr uned astudio hon yn eich cyflwyno i rai syniadau a modelau a fydd yn eich helpu i weithio allan yr hyn rydych am ei wneud gyda'ch syniad busnes ac ystyried effaith byw mewn lleoliad gwledig.

Deilliannau dysgu'r cwrs

Ar ôl astudio'r cwrs hwn, dylech allu:

  • deall pwysigrwydd sut mae byw mewn ardal wledig yn dylanwadu ar amcanion eich busnes neu'ch menter gymdeithasol
  • ystyried ymarferoldeb syniad busnes
  • cynllunio strategaeth i ddatblygu eich cwmni
  • nodi'r adnoddau a'r galluoedd tebygol sydd eu hangen ar gyfer eich busnes newydd a deall lle mae'r bylchau yn debygol o ddigwydd.

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/11/2013

Wedi'i ddiweddaru: 23/04/2020

Hepgor Graddau y Cwrs