2.6 Rhanddeiliaid
Mae gan fusnes lawer o randdeiliaid gwahanol. Y bobl gyntaf sy'n dod i'r meddwl yn aml yw'r rhanddeiliaid ariannol ac mae'n wir eu bod yn bwysig, ond gellir diffinio 'rhanddeiliaid' yn ehangach fel yr amrywiaeth o bobl sydd â buddiant yn y cwmni.
Mae Freeman (1984) yn diffinio rhanddeiliaid fel unrhyw grŵp neu unigolyn a all effeithio ar gamau i gyflawni amcanion y cwmni neu a gânt eu heffeithio gan y camau hynny; mae'n well gan Hill a Jones (1992) ddiffinio rhanddeiliaid fel etholwyr sydd â hawl ddilys dros y cwmni.
Nid asiantau allanol yn unig yw rhanddeiliaid. Gall eich teulu fod yn rhanddeiliaid pwysig, gallent ddibynnu ar y busnes ac efallai yr hoffech ofyn iddynt sut mae'r amser rydych yn ei dreulio ar eich busnes yn effeithio arnynt.
Yn achos Gwenllian, bydd ei gŵr - sy'n gynhyrchydd cerddoriaeth - yn ei helpu i gynhyrchu ei deunyddiau iaith. Drwy ddefnyddio'r cartref fel safle coginio, bydd yn rhaid i fywyd teuluol Gwyneth wneud lle i brosesau gweithgynhyrchu. Heb gefnogaeth ei deulu sy'n berchen ar yr adeiladau fferm y mae am eu defnyddio a'r fferm y mae'n gweithio arni ar hyn o bryd, ni all Euan sefydlu ei fragdy bach.
Gallai rhanddeiliaid gynnwys banciau, asiantaethau ariannu (fel awdurdodau dyfarnu grantiau), gweithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr, cyfranddalwyr (os yw hynny'n briodol), y gymuned leol, y wladwriaeth a'r rhai sy'n rhannu'r amgylchedd.
Nodi rhanddeiliaid
Yn hanesyddol, rhanddeiliaid oedd yr unigolion neu'r sefydliadau (gynnwys llysoedd weithiau) a oedd yn dal yr arian mewn bet neu gystadleuaeth arall. Roeddent yn annibynnol ar y betwyr neu'r cystadleuwyr ond roeddent yn bwysig iawn i'r canlyniadau. Yn fwy diweddar, caiff rhanddeiliaid eu hystyried yn grwpiau neu'n bartïon â buddiant nad ydynt o reidrwydd yn rhan uniongyrchol o drafodyn ond y mae eu tynged yn dod o dan ddylanwad gweithgareddau eich sefydliad neu hyd yn oed wedi'i rhwymo'n helaeth iddynt.
Mae rhai o'r rhanddeiliaid pwysicaf mwyaf cyffredin i gwmnïau bach yn cynnwys:
- perchenogion
- cyfranddalwyr
- rheolwyr
- gweithwyr
- cyflenwyr
- cwsmeriaid
- defnyddwyr
- credydwyr
- pobl wedi ymddeol/pensiynwyr
- dosbarthwyr
- landlordiaid
- gwasanaethau busnes (cyfreithiol, cyfrifyddu ac ati)
- y gymuned leol
- cymunedau lleol y cwsmeriaid
- cymunedau lleol y cyflenwyr
- perchenogion cwmnïau bach eraill
- aelodau o rwydweithiau
- cymdeithas/economi genedlaethol
- cymdeithas/economi ryngwladol.
Bydd gan bob cwmni randdeiliaid gwahanol, a bydd eu pŵer a'u dylanwad yn amrywio o un sefyllfa i'r llall a thros amser.
Tasg 11: Rhanddeiliaid
Nodwch randdeiliaid eich busnes arfaethedig. Efallai yr hoffech ddefnyddio'r templed rhanddeiliaid [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ond peidiwch â chael eich cyfyngu ganddo.
Os yw ffactorau fel yr amgylchedd neu'ch teulu yn rhanddeiliaid pwysig yn eich busnes, ychwanegwch y rhain a/neu dilëwch un o'r rhanddeiliaid sydd wedi'u nodi yn y templed. Darllenwch y rhestr uchod i gael syniad o randdeiliaid eraill posibl. Gallwch gael cynifer ag sy'n briodol yn eich barn chi.
Defnyddiwch y templed gofynion rhanddeiliaid i gofnodi gofynion neu ddisgwyliadau pob un o'r rhanddeiliaid.
Rhannwch eich syniadau am randdeiliaid ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol .