Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4.4 Prisio ar sail cwsmeriaid

Nid yw dulliau prisio ar sail cwsmeriaid yn golygu bod cynhyrchion a gwasanaethau'n cael eu cynnig am y pris isaf posibl, ond maent yn ystyried anghenion a dyheadau cwsmeriaid.

Prisio ar sail galw yw'r dull prisio sy'n canolbwyntio fwyaf ar y farchnad. Mae angen i'r entrepreneur sy'n defnyddio'r dull hwn ddechrau drwy asesu beth fydd y galw am y cynnyrch ar brisiau gwahanol. Gall wneud hyn drwy ofyn i ddarpar gwsmeriaid faint y byddent yn disgwyl ei dalu am y cynnyrch neu'r gwasanaeth ac yna gyfrif faint sy'n dewis pob pris. Wrth i'r pris gynyddu, bydd llai o gwsmeriaid yn barod i brynu'r cynnyrch oherwydd bydd llai ohonynt yn teimlo bod y cynnyrch yn darparu gwerth da am arian.

Mae'n werth crybwyll hefyd, oherwydd natur y farchnad neu gyfyngiadau o ran eu sgiliau a'u gallu eu hunain, na fydd llawer o entrepreneuriaid yn gallu gwneud ymchwil ffurfiol i'r farchnad er mwyn cael y wybodaeth hon. Yn lle hynny, byddant yn dibynnu ar eu barn, eu greddf neu'u profiad eu hunain neu bobl y maent yn ymddiried ynddynt. Dyma un o'r prif resymau dros ddewis dechrau busnes mewn sector rydych eisoes yn gyfarwydd ag ef ac yn ei ddeall.

Beth bynnag, gellir defnyddio'r math hwn o gyfrifiad i bennu camau polisi sgimio (lle rydych yn dechrau'n uchel fel y busnes cyntaf yn y farchnad ac yna'n lleihau dros amser wrth i eraill ymuno â'r farchnad) neu gellir ei ddefnyddio i gyfrifo pris lansio priodol ar gyfer y cynnyrch. Y cam nesaf yw cyfrifo costau cynhyrchu'r cynnyrch mewn symiau gwahanol. Fel arfer, mae'r gost o gynhyrchu pob eitem yn lleihau po fwyaf o unedau sydd gennych (e.e. os byddwn yn cynhyrchu 25,000 o unedau, bydd pob uned yn costio llai na phe byddem yn cynhyrchu 5,000 o unedau). Mae'r tabl isod yn dangos hyn.

Tabl 4
Nifer yr unedauCost fesul unedCostau cyfarparu* + sefydlogCost net fesul uned
25,000£1.10£3,500£1.24
20,000£1.22£3,500£1.39
10,000£1.44£3,500£1.79
5,000£1.87£3,500£2.57

Troednodyn  

*Y gost gyfarparu yw faint y bydd yn ei gostio i'r cwmni baratoi ar gyfer cynhyrchu'r eitem. Ni fydd y gost hon yn newid pa un a fyddwch yn gwneud 25,000 neu 5,000 o unedau. Byddai costau cyfarparu David yn cynnwys ei offer a'i gyfarpar gwaith coed ac i Gwyneth, byddent yn cynnwys ei stondin a'i chyfarpar arlwyo masnachol.

Mae'r tabl nesaf yn dangos pwysigrwydd arbedion maint ac effaith pris ar alw. £6.50 yw'r pris fyddai'n cynhyrchu'r elw uchaf fesul uned, ond dim ond 5,000 o unedau y byddent yn eu gwerthu am y pris hwn a fyddai'n gwneud elw o £19,650. Ar y llaw arall, £3.50 yw'r pris fyddai'n cynhyrchu'r nifer fwyaf o werthiannau ond byddai hyn yn golygu elw is fesul uned.

Felly, bydd pris gwerthu'r cynnyrch yn dibynnu ar amcanion strategol cyffredinol yr entrepreneur - yn yr achos hwn, gwneud yr elw mwyaf fesul uned neu gynyddu gwerthiannau a'i gyfran o'r farchnad.

Tabl 5
Nifer yr unedauPris fesul unedCyfanswm yr elwElw fesul uned
25,000£3.50£56,500£2.26
20,000£4.50£42,200£2.11
10,000£5.42£36,399£3.63
5,000£6.50£19,650£3.93