Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

2.2 Ffynonellau o syniadau busnes arloesol

Mae syniadau arloesol yn deillio o brofiadau a sefyllfaoedd cyffredin. Ystyriwch yr awgrymiadau isod. Efallai bod eich syniad busnes wedi datblygu o sefyllfa o'r fath:

  • gwaith a phrofiadau presennol a blaenorol
  • hobïau a diddordebau hamdden
  • cymwysterau ac astudiaethau
  • marchnadoedd/defnydd newydd ar gyfer cynhyrchion sydd eisoes ar gael
  • datrys problem barhaus
  • ymchwil a datblygu
  • patentau, trwyddedau a sefydliadau ymchwil
  • dyfeisio
  • cyfleoedd sy'n codi o dechnolegau newydd
  • cyfleoedd sy'n codi o newidiadau economaidd/newidiadau i'r farchnad
  • newidiadau yn ymddygiad defnyddwyr
  • cwynion a rhwystredigaeth a fynegwyd gan gwsmeriaid posibl
  • newidiadau i reolau a rheoliadau
  • efelychu syniad o ardal wahanol
  • efelychu syniad o ddiwydiant gwahanol
  • gwella cynnyrch sy'n bodoli eisoes
  • ffilmiau, teledu a radio
  • llyfrau, cylchgronau a'r wasg
  • sioeau masnach, arddangosfeydd a chynadleddau
  • rhwydweithiau busnes a chymdeithasol
  • teulu a ffrindiau.

Astudiaeth achos: Ffynonellau o arloesedd

Roedd David wrthi'n ystyried y rhestr uchod a daeth i'r casgliad er y gall gynnwys llawer ohonynt, fod y canlynol wedi dylanwadu'n sylweddol ar ei syniad:

  • gwaith a phrofiadau presennol a blaenorol - sawl blwyddyn o brofiad ymarferol fel saer yn gwneud ac yn gosod grisiau. Derbyn gwaith ychwanegol i wneud grisiau pan mai'r dewis arall i'r cyflogwr oedd chwilio ymhellach i ffwrdd, am gost uwch.
  • hobïau a diddordebau hamdden - gwaith creadigol fel gwneud eitemau wedi'u teilwra gan ddefnyddio ei sgiliau saer coed, a'u rhoi fel anrhegion i deulu a ffrindiau.
  • ymchwil a datblygu - mae nifer o dai preswyl yn yr ardal wedi'u hadnewyddu'n ddiweddar, naill ai er mwyn eu hailwerthu neu ychwanegu gwerth esthetig neu ariannol atynt yn ystod y dirywiad mewn gwerthiannau eiddo. Mae hyn wedi rhoi cyfle da iddo wneud gwaith ymchwil a datblygu uniongyrchol. Mae wedi gwneud grisiau ar gyfer eiddo masnachol a thrwy hyn, mae wedi ymgyfarwyddo â'r manylebau a'r rheoliadau a'r gofynion angenrheidiol.
  • gwella cynnyrch sy'n bodoli eisoes - mae grisiau yn bethau y bydd eu hangen bob amser ar gartrefi ac eiddo masnachol sydd â mwy nag un llawr. Yr un yw'r cynllun sylfaenol. Fodd bynnag, gall ychwanegu a gwella nodweddion eraill. Nid yw'r pren bob amser wedi bod yn gynaliadwy ac ni chaiff pren lleol o ffynonellau cynaliadwy ei ddefnyddio. Gallai hefyd ystyried defnyddio pren wedi'i adfer pan fo hynny'n bosibl, sy'n golygu y gallai ychwanegu hyn fel pwynt gwerthu.

Er mwyn i gynnyrch neu wasanaeth gael unrhyw siawns o lwyddo yn y farchnad ddewisol, rhaid i syniad busnes entrepreneuraidd daro'r cydbwysedd cywir rhwng dau rym croes o bosibl:

  1. yr angen i fod yn arloesol (cynnwys rhywbeth sy'n ddigon newydd fel ei fod yn ddeniadol ac yn gystadleuol)
  2. yr angen i fod yn hyfyw (digon o adnoddau, gallu a darpar gwsmeriaid i gyflwyno'r cynnyrch i'r farchnad a chyflawni eich amcanion ariannol).