3.4.11 Hyrwyddo
Mae a wnelo hyrwyddo â chyfathrebu â chwsmeriaid gwirioneddol neu ddarpar gwsmeriaid. Mae hyn yn cwmpasu'r maes cyfan o wybod, fel cwsmer, beth sydd ar gael a buddiannau a gwerth y cynnyrch neu'r gwasanaeth.
Mae hyrwyddo yn cynnwys hysbysebu yn y cyfryngau electronig a'r wasg, ynghyd â gweithgareddau eraill fel hyrwyddo cwsmeriaid a gwerthiannau a chysylltiadau cyhoeddus.
Mae llawer o berchnogion busnesau hefyd yn gweithredu fel eu cynrychiolwyr gwerthu eu hunain, gan ddatblygu cysylltiadau rhwydwaith pwysig â rhanddeiliaid allweddol. Ni ellir anwybyddu'r defnydd o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.
Tynnwyd sylw at rôl Cig Eidion Llyn fel rhwydwaith cymorth ond mae rhwydweithiau llacach, hyd yn oed yn fwy penodol yn rhanbarthol yn datblygu, er enghraifft, rhwydwaith Blas ar Bowys yn y canolbarth, neu "Fforch-i-Fforc" sydd â'i dudalen Facebook ei hun.
I rai cwmnïau gwasanaethau, mae safleoedd fel LinkedIn yn rhan allweddol o'u strategaeth hyrwyddo.
Ni all cwmnïau bach, yn enwedig pan gânt eu sefydlu, ariannu cyllidebau hyrwyddol mawr, sy'n golygu nad yw rhai dulliau hyrwyddo ar gael iddynt. Mae hysbysebu fel arfer yn afresymol o ddrud oni bai ei fod ar raddfa fechan a lleol. Felly, efallai yr hysbysebir ar lafar, drwy rwydweithiau presennol, neu drwy grwpiau a rhwydweithiau lleol.
Tasg 20: Nodi gweithgareddau hyrwyddol
Rhestrwch y gweithgareddau hyrwyddol a fydd yn gweithio'n dda i'ch cynnyrch neu wasanaeth. Cofiwch am y goblygiadau o ran adnoddau.
Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol .
Gadael sylw
Astudiaeth achos: David
Roedd David yn meddwl bod ganddo rai rhwydweithiau da iawn, ac y byddai'r busnes efallai yn 'dod ato ef'. Fodd bynnag, sylweddolodd mai rhan o'r gwaith hyrwyddo oedd sicrhau eu bod yn gwybod am ei fwriad i wneud hyn yn llawn amser - felly roedd yn werth ffonio. Argraffodd gardiau busnes hefyd, ac mae wedi dechrau ystyried cael arwydd a rhai geiriau ar ei gerbyd.
Nododd fod y papur lleol yn aml yn chwilio am straeon a meddyliodd y gallai hynny fod yn ffordd o gyrraedd cwsmeriaid y tu allan i'w rwydwaith. Gyda chytundeb datblygwyr eiddo y mae wedi gweithio gyda hwy, penderfynodd wahodd y golygyddion i fwthyn gwyliau ecogyfeillgar newydd yr oedd wedi bod yn gweithio arno i weld ei waith, gan gyhoeddi ei ddatganiad i'r wasg ar yr un pryd.
Astudiaeth achos: Gwyneth
Roedd Gwyneth yn brwydro i ganfod ffordd o allu fforddio hyrwyddo ei jamiau a'i siytnis. Cyllideb fach oedd ganddo ac roedd amser yn brin; roedd yn rhaid iddi ystyried gweithgynhyrchu, ynghyd â'i swydd ran amser ac ymrwymiadau teuluol. Penderfynodd ganolbwyntio ar y farchnad ffermwyr leol yn gyntaf.
Er ei bod yn gwybod na allai fforddio talu am hysbysebu mewn papurau lleol, roedd yn teimlo bod angen iddi gael rhyw fath o ddeunydd hyrwyddol a defnyddiodd dempled ar-lein i greu rhai cardiau busnes a chardiau post lliw yn hyrwyddo ei chynhyrchion a dechreuodd eu dosbarthu mewn siopau a busnesau lleol.
Meddyliodd Gwyneth hefyd y gallai pobl fod â diddordeb yn ei stori. Amlygiad yw popeth, felly sefydlodd dudalen Facebook lle y dechreuodd gofnodi datblygiad Blas y Bwthyn o'r dechrau. Fe'i helpodd hefyd i gofnodi ei syniadau wrth i'r busnes ddechrau tyfu.
Roedd Gwyneth yn gwybod y byddai'n gorfod cadw llygad barcud ar yr hyn a oedd yn gweithio a'r hyn nad oedd yn gweithio, felly aeth i'r arfer o ofyn i gwsmeriaid ac ymholwyr ble roeddent wedi clywed am Blas y Bwthyn. Cadwodd nodyn o'u hatebion ac roedd yn bwriadu adolygu ei gweithgaredd marchnata ymhen chwe mis.