Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Strwythur yr uned

Dylai'r uned hon gymryd tua 30 o oriau astudio, ond mae wedi'i chynllunio'n ofalus fel y gallwch ddysgu ar eich cyflymder eich hun. Cynllunnir y deunyddiau ar gyfer astudio ar eich sgrîn gyfrifiadurol (ond gellir argraffu adrannau i'w darllen mewn mannau eraill) mewn cyfnodau byr - hanner awr nawr ac yn y man lle bynnag ydych.

Er bod yr uned wedi'i chynllunio fel y gallwch ei hastudio ar eich pen eich hun, fel Adnodd Addysgol Agored (AAA), gallwch hefyd lawrlwytho cynnwys a'i ailddefnyddio, ei ddiwygio neu'i ailgymysgu ar gyfer cyd-destunau eraill. Rydym wedi ceisio sicrhau bod y cynnwys mor hyblyg a hawdd i'w addasu â phosibl. Mae hyn yn golygu y dylai fod yn hawdd i'w defnyddio mewn sefyllfaoedd wyneb yn wyneb, er enghraifft, gyda grŵp o entrepreneuriaid eraill neu aelodau o'r gymuned (menter gymunedol) yn ogystal ag ar ben eich hun, ar-lein. Mae'r adran Adnoddau ar ddiwedd yr uned yn cynnwys templedi a ddefnyddir yn y cwrs i'w lawrlwytho.

Rydym wedi sefydlu cyfrif Twitter, @RuralEntWales [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] . Gallwch ddefnyddio hwn er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau yn y dirwedd entrepreneuraidd wledig.

Mae map yr uned isod yn dangos adrannau'r uned ynghyd ag arweiniad ar ba mor hir y gallai pob adran bara, fel y gallwch gynllunio eich amser astudio. Mae'r deilliannau dysgu yn disgrifio beth y gallwch ddisgwyl y byddwch wedi'i ddysgu ar ôl gorffen eich gwaith astudio.

Y ddelwedd a ddisgrifir
Ffigur 1 Strwythur yr uned

Wrth i chi symud drwy'r uned hon, byddwch yn dechrau cwblhau cynllun, drwy lenwi'r Adolygiad o Gynnydd y Cynllun Busnes (AGCB). Er bod yr AGCB yn rhy fyr i'w ystyried yn gynllun busnes llawn, bydd yn eich helpu i adolygu prif elfennau eich syniad busnes ac yn hynod o ddefnyddiol fel dogfen grynhoi. Mae'r AGCB ar gael i'w lawrlwytho yn yr adran Adnoddau.

Wrth i chi lansio syniad eich busnes newydd - ac os ydych yn bwriadu sicrhau cyllid ar gyfer eich syniad busnes - bydd angen cynllun busnes manylach arnoch nag sydd yn yr uned hon, felly mae'n syniad da gweithio ar ddwy fersiwn o'r cynllun wrth i chi fynd drwy'r uned.