Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4.9 Cadwyn gyflenwi

Mae Marsden, Banks a Bristow (2000) yn edrych yn fwy penodol ar natur newidiol y gadwyn gyflenwi, y maent yn ei chanmol am gynyddu diddordeb mewn bwyd lleol o ansawdd uchel. Yn eu barn hwy, caiff ansawdd ei ddatblygu wrth i ardal benodol greu rhwydweithiau cysylltiedig sy'n cynnwys mathau gwahanol iawn o gadwyni cyflenwi. Maent yn dadlau:

... short supply chains seek to redefine the producer-consumer relation by giving clear signals as to the origin of the food product. Short supply chains are also expressions of attempts by producers and consumers alike to match new types of supply and demand

… A common characteristic is the emphasis upon the type of relationship between the producer and the consumer in these supply chains, and the role of this relationship in constructing value and meaning, rather than solely the type of product itself.

Felly, daw'r gadwyn gyflenwi yn llawer byrrach. Mae Marsden et al. yn diffinio tri gwahanol fath o 'gadwyni cyflenwi bwyd byr' (CCBB). Prif nodwedd CCBB yw bod y cynnyrch yn cyrraedd y defnyddiwr gyda gwybodaeth am darddiad y cynnyrch, boed hynny wyneb yn wyneb neu ar y pecyn. Y wybodaeth hon sy'n creu'r cysylltiad rhwng y cynhyrchwr a'r defnyddiwr - gall fynd mor bell â llunio cysylltiad â gwerthoedd y cynhyrchwr a'r dulliau a ddefnyddir.

Mae cynhyrchwyr yn defnyddio un, dwy neu'r tair CCBB hyn:

  1. Wyneb yn wyneb: mae'r defnyddiwr yn prynu'n uniongyrchol oddi wrth y cynhyrchwr (mewn marchnad ffermwyr efallai). Mae'r rhyngweithio personol hwn yn creu ymdeimlad o ddilysrwydd ac ymddiriedaeth. Gellir ystyried bod masnachu ar-lein drwy dudalennau gwe hynod o bersonol yn amrywiad ar hyn.
  2. Agosrwydd arbennig: caiff cynhyrchion eu cynhyrchu a'u manwerthu yn y rhanbarth cynhyrchu penodol. Mae gwybodaeth yn y pwynt gwerthu yn hysbysu defnyddwyr o darddle'r cynnyrch.
  3. Gofod estynedig: caiff y cynnyrch ei werthu ym mhob lleoliad ond rhoddir gwybodaeth llawn gwerth am y man cynhyrchu a'r cynhyrchwyr i'r defnyddwyr, na fydd ganddynt unrhyw gysylltiad â'r rhanbarth ei hun o bosibl.

Gall ymgysylltu â'r sefydliadau neu'r grwpiau hyn helpu eich busnes i ddatblygu a rheoli ei CCBB. Mae cynhyrchydd cydweithredol Cig Eidion Llyn yng Ngogledd Cymru yn enghraifft ardderchog o ymatebi alw newydd am gig eidion aeddfed, heb lawer o fraster, y gellir olrhain ei darddiad ac sydd o ansawdd cyson a gaiff ei sicrhau. Mae hefyd yn cydnabod a chydnabod anghenion cymdeithas ehangach ynghylch lles anifeiliaid a chynnal bioamrywiaeth y tir ac yn ymateb iddynt. Sefydlwyd y corff cydweithredol ar sail y gred y byddai hyrwyddo cig eidion Cymreig â brand yn llwyddo i sicrhau teyrngarwch ymhlith manwerthwyr a chwsmeriaid a phris premiwm. Mae'n dangos sut mae rhwydweithiau a chadwyni cyflenwi newydd wedi datblygu er mwyn cefnogi busnesau gwledig.