4.5 Dadansoddiad SWOT
Gan eich bod bellach wedi treulio peth amser yn dadansoddi eich potensial o ran busnes, mae'n adeg dda i ddwyn eich cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau (SWOT) ynghyd.
Fe welwch fod y cryfderau a'r gwendidau yn dod yn bennaf o'r amgylchedd mewnol, h.y. pethau sy'n ymwneud â gweithrediadau mewnol y cwmni. Bydd cyfleoedd a bygythiadau'n codi'n fynych o'r hyn sy'n digwydd y tu allan i'r cwmni. Mae tynnu ynghyd bopeth a wyddoch am eich cwmni yn fewnol ac allanol yn ddefnyddiol iawn. Mae'n llywio strategaeth ac yn arwain gweithrediadau o ddydd i ddydd hefyd.
Mae dadansoddiad SWOT fel arfer yn cynnwys cyfres o bwyntiau o dan bob pennawd a thu ôl i bob pwynt a ysgrifennwch, bydd llawer iawn o waith dadansoddi sydd wedi llywio eich barn. Cofiwch gynnwys y pwyntiau pwysig yn unig - hynny yw, y rhai fydd yn cael yr effaith fwyaf ar strategaethau a rhaglenni o weithgareddau a ddatblygir. Yn amlwg bydd yn haws dylanwadu ar y pwyntiau mewnol, y cryfderau a'r gwendidau a'u rheoli wrth iddynt ddigwydd yn y busnes.
Ystyriwch y cylch gwerth yn yr is-adran olaf wrth i chi gwblhau eich dadansoddiad. Archwiliwch y broses ar gyfer cryfderau a gwendidau. Edrychwch ar gyfleoedd a bygythiadau yng nghyd-destun proses o'r fath hefyd.
Mae cyfleoedd a bygythiadau fel arfer yn digwydd y tu allan i'r busnes. Ni all y busnes na pherchennog y busnes eu newid na dylanwadu arnynt o reidrwydd - yn sicr nid yn y byrdymor.
Mae'n well cael rhai pwyntiau hyddysg a pherthnasol na rhestr hir, arwynebol yn eich dadansoddiad SWOT. Mae hefyd yn bwysig ystyried yr holl bwyntiau gyda'i gilydd, oherwydd gallant fod yn gysylltiedig â'i gilydd ac yn rhyngweithiol.