Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3.4.8 Lleol

Meddyliwch am yr adfywiad yn y diddordeb mewn bwyd 'lleol' rydym wedi'i weld dros y blynyddoedd diwethaf. Nid yw hyn wedi digwydd drwy hap a damwain.Roedd ailgysylltu pobl, cynhyrchion a lleoedd yn un o argymhellion allweddol Comisiwn Polisi ar Ddyfodol Ffermio a Bwyd yn 2002 (gweler Hein, Ilbery a Kneafsey, 2006).

Nid yw pob lle yn mynd i ddatblygu economi bwyd lleol fywiog. Edrychodd Hein et al. ar y ffactorau amrywiol a all ddylanwadu ar gryfder y farchnad bwyd lleol mewn unrhyw ardal, fel nifer y cyfeiriaduron bwyd a nifer y cynhyrchwyr bwyd lleol sy'n hysbysebu ynddynt. Gwnaethant hefyd ystyried nifer y ffermwyr a'r tyfwyr organig trwyddedig, nifer y siopau fferm a marchnadoedd ffermwyr.

Maent yn pwysleisio'r gwahaniaeth rhwng cael cynhyrchion bwyd lleol da a mynediad at farchnadoedd. A oes marchnad leol gref, neu a oes angen allforio'r cynnyrch? Os bydd angen allforio'r cynnyrch, a yw 'gwerth' y cynnyrch hwnnw yn dibynnu ar ffresni na fydd yn addas i'w allforio o bosibl, neu a yw'n unigryw i ardal arbennig ac yn 'werth' y gallai pobl y tu allan i'r ardal honno fod yn awyddus i roi cynnig arno..I weld trafodaeth ar hyn yng nghyswllt Cymru, darllenwch erthygl y Guardian 'Local Food: have you had your fill? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Mae gan Gymru, er enghraifft, farchnad bwyd lleol gref, sy'n seiliedig ar gynhwysion lleol crai, ac ymwybyddiaeth gref o frand drwy ei brand Blas ar Gymru gynt, a'i brand mwy newydd, Croeso Cymru. Yn hanfodol i hyn mae'r ymddiriedaeth a gaiff ei meithrin pan fo amrywiaeth o gynhyrchwyr yn brandio eu cynnyrch â label sicrwydd ansawdd - o gig i gaws, ac o gwrw i chwisgi. Wrth gwrs, mae hyn yn dibynnu ar gael cynhwysion o ansawdd da, lefel o ymwybyddiaeth brand yn barod, a set o ddelweddau a gwerthoedd sy'n gysylltiedig â'r ymwybyddiaeth brand honno sy'n ategu'r cynhyrchion rydych am eu gwerthu. Yn enwog am ei gwyliau bwyd sy'n dathlu popeth da a lleol, nid oes unrhyw frand yn fwy adnabyddus na gŵyl fwyd flynyddol y Fenni. Mae'r ŵyl, a gafodd ei sefydlu yn 1999 gan ddau ffermwr lleol ar ôl argyfwng clwy'r traed a'r genau, bellach wedi ymestyn ei chyrhaeddiad, gan ddathlu cynnyrch da o Gymru, y Gororau a thu hwnt. .