Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.4 Yr entrepreneur gwledig

Yn wreiddiol, roedd y term 'entrepreneur', sy'n dod o'r geiriau Ffrangeg entre (rhwng) a prendre (cymryd), yn cyfeirio at rywun a oedd yn gweithio fel cyfryngwr wrth wneud rhywbeth. Defnyddiwyd y term gyntaf i ddisgrifio gweithgareddau unigolyn y gallem ei alw y dyddiau hyn yn impresario, hyrwyddwr neu'n lluniwr syniadau entrepreneuraidd sy'n datblygu cynigion.

Os gofynnwch i bobl enwi entrepreneur, bydd llawer yn dweud Richard Branson. Mae'n wir ei fod yn entrepreneur, ond drwy feddwl bod yn rhaid i entrepreneuriaid fod yn bobl enwog â phroffil uchel, rydym yn gwneud cam mawr â'r rhai sy'n gweithio i greu cynhyrchion neu wasanaethau newydd neu eu cyflwyno i'r farchnad mewn ffordd wahanol neu fwy effeithlon.

Mae'n werth nodi hefyd nad rhywbeth i'r sector gwneud elw yn unig yw entrepreneuriaeth. Gwelwn hefyd y gall entrepreneuriaid cymdeithasol, ac mewn llawer o ardaloedd gwledig, entrepreneuriaid polisi (pobl â swyddi cyhoeddus fel awdurdod lleol), fod yr un mor bwysig wrth osod y sylfeini ar gyfer entrepreneuriaeth.

Bydd llawer o enghreifftiau o fusnesau entrepreneuraidd o fewn cwmpas o 20 milltir i unrhyw leoliad gwledig.

Tasg 5: Busnesau gwledig

Gwnewch restr o fusnesau sy'n lleol i chi y gellir eu hystyried yn entrepreneuraidd yn eich barn chi..

Ymhlith sampl o fusnesau bach a nodwyd o fewn cwmpas bach iawn i'w gilydd roedd:

  • Mewnforiwr siocled, o gyfandir Ewrop yn wreiddiol, a welodd fod pobl yn hoffi'r siocled roedd yn ei brynu fel anrhegion ac a aeth ati i sefydlu busnes.
  • Teulu ffermio sydd wedi adeiladu caffi a byncws i ychwanegu at ei incwm.
  • Ymgynghoriaeth sy'n gwneud gwaith monitro ecolegol, ar gyfer datblygiadau newydd yn bennaf. Mae'n brysur iawn yn cynnal asesiadau o effaith ar gyfer cynlluniau hydro a ffermydd gwynt.
  • Amrywiaeth o fasnachwyr lleol sy'n gweithio fel unig fasnachwyr ond sy'n dod ynghyd i weithio ar brosiectau mwy o faint.
  • Cwmni cymunedol sy'n berchen ar bysgodfa leol ac yn ei rheoli, ac sy'n ehangu i faes hydro.
  • Gweithredwr peiriannau hunangyflogedig sy'n berchen ar ei beiriannau ei hun ac sy'n arallgyfeirio i'r busnes pibellau.
  • Tyddynwr a symudodd i'r ardal a sefydlu busnes madarch sy'n gwerthu'n uniongyrchol i gyfanwerthwyr ac sydd wedi ehangu'n ddiweddar i werthu citiau madarch.
  • Dau wneuthurwr gitarau sy'n annibynnol ar ei gilydd ond sy'n byw llai na milltir oddi wrth ei gilydd. Mae'r ddau ohonynt yn gwneud offerynnau pwrpasol â llaw.
  • Unig fasnachwr sy'n datblygu ac yn dylunio'r systemau cyfrifiadurol sy'n rhedeg systemau rheoli tymheredd mewn adeiladau uchel ac y mae'r rhan fwyaf o'i gleientiaid wedi'u lleoli yn Ne Ddwyrain Asia.

Gadael sylw

Dechreuodd pob un o'r perchenogion busnes hyn â syniad bach a'i ddatblygu yn fenter gymdeithasol neu'n fusnes cynaliadwy. Yn aml, tybir bod entrepreneuriaid yn rhannu'r un nod â phob perchennog busnes ac uwch reolwr arall, sef cynyddu elw eu busnes i'r eithaf. Hyd yn oed os ydych yn gweithio tuag at fenter gymdeithasol, mae hyfywedd ariannol hirdymor y fenter yn dal i fod yn anghenraid sylfaenol. Mewn realiti, fodd bynnag, mae llawer o gymhellion ac amcanion eraill yn dylanwadu ar ymddygiad busnesau a rheolwyr hefyd, yn enwedig ymhlith sefydliadau bach â llai nag 20 o weithwyr (a fyddai'n cynnwys bron pob busnes newydd).

Diffiniodd yr economegydd o Awstria, Joseph Schumpeter (1934), yr entrepreneur fel rhywun sy'n gweithio fel cyfrwng newid drwy roi bodolaeth i gyfuniad newydd o ddulliau cynhyrchu. Hanfod ymagwedd Schumpeter yw bod entrepreneuriaid yn gystadleuol a'u bod bob amser yn ceisio ennill y blaen ar eu cystadleuwyr, neu sicrhau'r cyfleuster gorau i'w cleientiaid yn achos menter gymdeithasol. Yn gyffredinol, awgryma fod entrepreneuriaid hefyd yn fedrus wrth berswadio buddsoddwyr a darparwyr cyfalaf (fel banciau, perthnasau neu gynlluniau grant) i dderbyn y brif risg ariannol.

Pan fydd entrepreneuriaid yn dechrau ymgryfhau ac arafu byddant yn dod yn rheolwyr cyffredin ac, yn ôl Schumpeter, nid ydynt yn entrepreneuriaid mwyach. Felly, gall fod angen set benodol o sgiliau, dulliau gweithredu ac agwedd i sefydlu busnes a set wahanol i'w redeg a sicrhau ei gynaliadwyedd.

Mae gan McClelland (1968) safbwynt mwy seicolegol. Y brif ffactor sy'n ysgogi entrepreneuriaeth yn ei farn ef yw'r 'angen i gyflawni' - 'awydd i wneud yn dda, nid er mwyn cael cydnabyddiaeth na bri cymdeithasol fel y cyfryw, ond er mwyn cael ymdeimlad o gyflawniad personol'. Roedd McClelland yn dra beirniadol o elw fel prif ysgogydd gweithgarwch entrepreneuraidd.

Mae Slee (2008) yn awgrymu unwaith y bydd unigolyn yn cyrraedd lefel gymharol isel o gyfoeth, ni fydd unrhyw gynnydd pellach yn arwain at gynnydd cyfatebol mewn hapusrwydd. Felly, efallai na fydd yr awydd am dwf cyson mewn cwmni bach yn gwella'r 'lles' y nodwyd ei fod yn gymhelliad pwysig i lawer o fusnesau gwledig.

Dadleua y dylai llawer o bethau ddigwydd yn lleol, boed yn waith, cynhyrchu ynni neu fwyd neu, yn wir, amser hamdden. Awgryma Curry (2008):

It is the pursuit of a number of these ‘non-growth’ characteristics that is enjoying increasing popularity amongst rural communities themselves … ‘bottom up’ initiatives such as land trusts, community finance solutions, alternative foods, local foods, farmers markets, etc. are all naturally adopting Slee’s notions of relocalisation on the ground.