Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.3.1 Elw, costau a mantoli'r gyllideb

Dylai unrhyw sefydliad sy'n gwneud elw, trwy ddiffiniad, wneud elw. Ni ddylai sefydliad dielw fynd i ddiffyg, ac efallai y bydd angen iddo gynhyrchu gwarged ('elw' mewn termau masnachol). Un o swyddogaethau hollbwysig y cyfrif elw a cholled (a allai fod yn gyfrif gwarged a diffyg mewn termau anfasnachol) yw rhagweld ymlaen llaw yr elw neu'r golled debygol ar unrhyw gam yn y dyfodol. Bydd hyn yn dangos a yw'r gweithrediad yn hyfyw. Rhennir y costau yn ddau brif fath: y rhai sy'n ymwneud â lefel y cynnyrch neu'r gwasanaeth a gynhyrchir, a'r rhai sy'n bodoli beth bynnag fo lefel y cynnyrch neu'r gwasanaeth a gynhyrchir.

Gelwir y rheini sy'n bodoli waeth beth fo lefel y cynnyrch neu'r gwasanaeth a gynhyrchir yn gostau sefydlog (neuorbenion). Maent yn cynnwys eitemau fel treuliau swyddfa a gweinyddol, cyflogau'r perchnogion a'r cyfarwyddwyr, cyflogau rheolwyr, rhent a threthi. Yn amlwg, rhaid talu'r rhain neu ni all y cwmni barhau. Mae lefel y costau sefydlog yn aros yn sefydlog ar gyfer ystod o gynhyrchion neu wasanaethau a ddarperir. Wrth gwrs, os oes cynnydd enfawr yn y cynhyrchion neu'r gwasanaethau a ddarperir, yna efallai y bydd angen swyddfeydd mwy o faint a mwy o reolwyr, a fydd yn codi'r costau sefydlog.

Gelwir y costau hynny sy'n uniongyrchol gysylltiedig â lefel cynhyrchu nwyddau neu ddarparu gwasanaethau yn gostau amrywiol ac maent yn cynnwys cost deunyddiau a gwasanaethau, cost cyfleustodau sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chynhyrchu neu ddarparu gwasanaethau, cyflogau gweithwyr sydd ond yn gysylltiedig â chynhyrchu neu ddarparu gwasanaethau, ac eitemau eraill sy'n uniongyrchol gysylltiedig â chynhyrchu neu ddarparu gwasanaethau. Bydd y costau amrywiol hyn yn codi wrth i gynhyrchiant neu wasanaethau a ddarperir gynyddu, a byddant yn gostwng wrth i gynhyrchiant neu wasanaethau a ddarperir leihau. Gall y cynnydd a'r gostyngiad fod yn llyfn ac yn uniongyrchol gysylltiedig â maint - felly yn achos Catterline, byddai cynnydd mewn cynhyrchiant yn arwain at gynnydd tebyg yn y gost amrywiol a gynrychiolir gan y byrddau cylched. Gall ddigwydd fesul cam hefyd felly byddai costau llafur y cyfosodwyr yn aros yn sefydlog nes bod y maint sydd ei angen yn galw am gyflogi cyfosodwr arall lle y byddai'r costau amrywiol yn codi oherwydd y cyflog i gyfosodwr arall.

Tasg 38: Costau sefydlog ac amrywiol

Meddyliwch yn ôl i'r wybodaeth y dylai Gwyneth ei chasglu yn eich barn chi. Beth fyddai'n gostau 'sefydlog' a beth fyddai'n gostau 'amrywiol' yn eich barn chi?

Gall cost cynhwysion amrywio drwy gydol y flwyddyn a gall prisiau petrol godi a gostwng bob mis. Bydd cyfarpar sydd ei angen i baratoi'r cynhyrchion yn gost sefydlog.

Mae'r rhan fwyaf o'r costau hyn yn rhai amrywiol.

Defnyddir y ddau fath hyn o gost i amcangyfrif gwerthiannau lle y mantolir y gyllideb. Wrth i werthiannau gynyddu, bydd y cyfraniad (y gwahaniaeth rhwng gwerthiannau neu werth gwasanaeth a chostau amrywiol) hefyd yn cynyddu. Pan fydd lefel yr incwm o werthiannau yn cwmpasu'r costau sefydlog, gelwir hyn yn mantoli'r gyllideb. Bydd gwerthiannau sy'n uwch na hyn yn cyfrannu at elw net y busnes; ni fyddant o reidrwydd yn golygu bod gan fusnes yr arian parod angenrheidiol i dalu ei ddyledion. Rhaid i'r llif arian parod benderfynu hynny.

Astudiaeth achos: Mantoli cyllideb Catterline

Mae busnes Hannah bron yn mantoli'r gyllideb ar ddiwedd 18 mis. Mewn geiriau eraill, mae ar adeg lle nad yw'n gwneud elw nac yn gwneud colled. Pan fantolir y gyllideb, mae'r gwerthiannau yn talu'r costau i gyd yn llwyr. Yr adeg pan fydd yn gwybod ei bod wedi mantoli'r gyllideb yw pan fydd gostyngiad mewn costau neu gynnydd mewn gwerthiannau yn cynhyrchu elw - bydd wedi talu ei chostau gweithredu i gyd.

Yn gyffredinol, mae sefydliadau'n ceisio nodi'r adeg pan fantolir y gyllideb er mwyn dangos iddynt hwy eu hunain, y banciau a'r buddsoddwyr eu bod wedi cyrraedd man lle y dylai'r busnes fod yn sefydliad hyfyw.