Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

6 Beth nesaf?

Deilliant dysgu cyffredinol y cwrs yw gallu paratoi cynllun busnes ar gyfer busnes newydd, gan ystyried manteision ac anfanteision byw mewn lleoliad gwledig.

Wrth weithio drwy'r uned hon rydych wedi ystyried yr holl bosibiliadau ar gyfer eich busnes.

Y cwestiynau hollbwysig yn awr yw:

  • Ar ôl gwneud yr holl waith paratoi yma, beth yw'r camau nesaf a gymerwch?
  • A ydych wedi argyhoeddi eich hun fod eich syniad yn gynllun busnes hyfyw? A fydd gwireddu eich syniad yn arwain at y ffordd o fyw rydych yn ei dymuno?
  • A ydych yn barod am waith caled?
  • A ydych yn barod i gael y pleser o weithio i chi eich hun, o ymateb i adborth gan eich cwsmeriaid?
  • A ydych yn glir p'un a yw byw mewn lleoliad gwledig yn creu heriau ychwanegol, manteision neu ddim yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i chi?

Cyn gwneud eich penderfyniad terfynol, byddai'n ddefnyddiol pe baech yn cwblhau eich Adolygiad o Gynnydd y Cynllun Busnes (AGCB). Os ydych wedi ei gwblhau wrth i chi fynd drwy'r cwrs yna neilltuwch amser yn awr i'w adolygu.

Edrychwch ar yr adrannau cynnar eto yng ngoleuni'r hyn rydych wedi ei ddysgu o'r uned gyfan. Byddai'n anghyffredin pe na baech yn newid rhai elfennau o'ch gwaith cynharach, gan eich bod bellach wedi cael y cyfle i ddatblygu eich syniadau ymhellach.

Efallai eich bod wedi penderfynu newid eich syniad busnes yn llwyr, ac mae hynny'n iawn. Fodd bynnag, at ddiben yr AGCB, cofnodwch y daith darganfod a ddaeth â hi i'r casgliad hwnnw. Yna gallwch fyfyrio ar eich dysgu ac ailadrodd y broses ar gyfer eich syniad busnes newydd neu ddiwygiedig.

Cyfeiriwyd eisoes at yr AGCB fel crynodeb o gynllun busnes. Fodd bynnag, mae sawl fformat yn bosibl ar gyfer cynllun busnes. Ar y dechrau gwnaethom nodi amrywiaeth o sefydliadau a all gynnig help a chymorth. Gobeithio eich bod wedi cysylltu â hwy eisoes a'u bod wedi eich helpu i lunio eich dull gweithredu. Os nad ydych, efallai ei fod yn adeg dda yn awr i gysylltu â hwy, gan eich bod wedi cwblhau eich AGCB.