2.7 Competitive advantage
Roedd Michael Porter (1998) yn adnabyddus yn rhyngwladol am ei waith ar greu mantais gystadleuol. Mae ei ddadansoddiad o effaith pwysau neu rymoedd cystadleuol allanol yn darparu fframwaith defnyddiol er mwyn ystyried y mathau o rymoedd a chydberthnasau rhwng cwmnïau sy'n dylanwadu ar gystadleuaeth yn lleol (a'r math o bwysau a all wynebu cwmni newydd).
Ym marn Porter, gellir rhannu'r pwysau cystadleuol ar ddiwydiant penodol yn 'bum grym' - yn ogystal â'r frwydr ganolog â chystadleuwyr presennol, mae cystadleuwyr newydd sy'n ymuno â'r farchnad, dadleuon â chyflenwyr ynghylch costau cyflenwadau a phwysau cyson i ostwng prisiau i gwsmeriaid. Mae modd gweld pob un o'r rhain, heblaw weithiau am gystadleuwyr newydd o'r tu allan. Yr hyn sy'n llai amlwg yw'r grymoedd cystadleuol a gaiff eu creu'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol gan ddefnyddwyr a chwsmeriaid pan fyddant yn troi at ffyrdd newydd neu amgen o ddiwallu eu hanghenion, er enghraifft gwasanaethau teithio ar-lein o gymharu ag asiantau teithio ar y stryd fawr.
Mae'r pum grym hefyd yn feysydd lle gall entrepreneuriaid ganfod cyfleoedd i arloesi sy'n rhoi mantais gystadleuol bendant iddynt. Gall edrych ar yr amgylchedd cystadleuol yn y ffordd hon ein helpu i ddeall sut mae ffactorau STEEP yn effeithio ar ein cwsmeriaid.
Tasg 12: Dadansoddi'r fantais gystadleuol
Cwblhewch ddadansoddiad o'r pum grym ar gyfer eich busnes arfaethedig gan ddefnyddio'r templed dadansoddiad o'r pum grym [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Nodwch a yw'r pŵer bargeinio yn isel, yn ganolig neu'n uchel ym mhob achos, yn eich barn chi.