3.1 Beth yw cwsmer?
Beth bynnag fo'ch busnes, eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth, bydd angen cwsmeriaid arnoch. Gall deimlo fel pe bai cymaint o bethau i'w gwneud pan fyddwch yn dechrau cwmni. Yn aml iawn, caiff llawer o amser ei dreulio'n perffeithio'r cynnyrch, boed yn gwrw neu'n bot o jam, ac nid oes amser ar ôl i ddeall eich cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid.
Mae nifer o wahanol fathau o gwsmeriaid:
- cwsmeriaid sydd hefyd yn ddefnyddwyr - er enghraifft, bwyty neu gaffi.
- cwsmeriaid sy'n prynu ar ran eraill (defnyddwyr) - er enghraifft, llywodraeth leol yn prynu gwasanaethau gan fenter gymdeithasol
- cwsmeriaid sy'n prynu ar ran eraill (busnesau) - er enghraifft, warysau cyfleustodau sy'n prynu ynni ar ran cwmnïau eraill
- busnesau eraill - er enghraifft, cwmni sy'n datblygu gwasanaeth i gwmnïau eraill ei ddefnyddio.
Tasg 14: Adnabod eich cwsmeriaid
Meddyliwch am y grwpiau o bobl a fydd yn gwsmeriaid i chi.
- A fyddwch yn gwerthu'n bennaf i ddefnyddwyr, busnesau eraill neu gyrff llywodraeth?
- A fyddwch yn gwerthu'n bennaf i ddefnyddwyr, cwsmeriaid cyfryngol neu brynwyr neu unedau prynu sy'n rhan o sefydliadau mwy o faint?
- A oes gennych ffyrdd o gategoreiddio'r prif unigolion sy'n gwneud penderfyniadau o ran prynu y bydd yn rhaid i chi ddylanwadu arnynt yn eich diwydiant (neu, yn fwy penodol, eich busnes)?
Rhannwch eich syniadau ag entrepreneuriaid eraill yn eich rhwydweithiau lleol .
Gadael sylw
Nid dim ond un math o gwsmer fydd bob amser.
Astudiaeth achos: Gwyneth
Gallai Gwyneth werthu i gwsmeriaid sy'n ddefnyddwyr. Mae hyn yn golygu y byddent yn prynu potiau o jam, siytni neu gyffaith a'u bwyta eu hunain .
Gallai hefyd werthu i reolwr manwerthu sy'n prynu nwyddau i'w gwerthu i gwsmeriaid yn ei siop. Ni fydd y rheolwr yn defnyddio'r bwyd o gwbl.
Rhywbryd yn y dyfodol, gallai Gwyneth ehangu ei busnes a hefyd gwerthu i reolwr prynu neu brynwr ar gyfer gwerthiannau ar-lein.
Mae'n bwysig meddwl gam neu ddau y tu hwnt i'r cwsmer/defnyddiwr uniongyrchol.
Mae angen i Gwyneth nid yn unig feddwl am ei phrynwyr uniongyrchol ond hefyd am y rhai fydd yn dylanwadu'n sylweddol ar ei gallu i gyflenwi i sail gwsmeriaid ehangach.