4.6 Crynodeb
Yn yr adran hon rydych wedi:
- archwilio'r model trawsnewid o fewnbynnau i allbynnau a'r cylch gwerth menter estynedig
- ystyried yr adnoddau sy'n ofynnol yn eich busnes newydd
- deall bod a wnelo gallu â'r modd rydych yn defnyddio adnoddau
- dechrau meddwl am gymhwysedd craidd eich menter newydd
- cynnal eich dadansoddiad SWOT eich hun
- edrych y tu hwnt i SWOT i weld manteision, anfanteision, temtasiynau ac amddiffyniadau.
Nawr agorwch yr AGCB (neu lawrlwythwch y templed [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) a myfyriwch ar y gweithgareddau a gwblhawyd yn yr adran hon. Adolygwch yr allbwn o bob gweithgarwch a chwblhewch y cwestiynau yn Adran 3 o'r AGCB, sy'n ei gwneud yn ofynnol i chi gyfuno eich gweithgaredd a'ch syniadau hyd yma.