Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru
Entrepreneuriaeth Gwledig yng Nghymru

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.3.2 Dadansoddi swydd

Tasg 25: Dadansoddi swydd

  1. Adolygwch y wybodaeth uchod gan ystyried eich swydd eich hun, os ydych yn bwriadu bod yn unig fasnachwr, neu ar gyfer aelod allweddol o'ch staff.
  2. Nodwch unrhyw fylchau mewn sgiliau neu wybodaeth y mae angen eu llenwi.

    Er enghraifft, mae angen i Euan ddysgu mwy am fragu, ac mae David yn ystyried dysgu sgiliau meddalwedd dylunio 3D.

  3. Dechreuwch nodi sut/ble y gellir y llenwi'r bylchau hyn.

    Mae Euan wedi dod o hyd i fragdy sy'n cynnal dosbarthiadau, ac mae David yn mynd i roi cynnig ar ei goleg lleol.

Mewn cwmnïau sy'n seiliedig ar gynhyrchu a dosbarthu ffisegol, mae'n aml yn haws nodi adnoddau allweddol (pobl, cyfarpar, safle, ac ati). Fodd bynnag, mae gan y rhan fwyaf o wasanaethau agwedd ffisegol, hefyd, ac mae gan lawer broses gynhyrchu sylfaenol (prosesu archebion, manylebau cleient; pennu staff i swyddi cleientiaid, apwyntiadau; cynhyrchu adroddiadau, anfonebau ac ati).

Os ydych ar gam mwy datblygedig lle rydych yn dechrau cynllunio, cofiwch nad yw nifer gynyddol o gwmnïau bach yn cyflogi cyflogeion cymorth, ac yn lle hynny yn troi at ddeunyddiau mwy creadigol o dechnoleg yn fewnol neu drwy roi mwy o waith ar gontract allanol.

Er enghraifft, arferai cwmni bach llwyddiannus sy'n cynnwys pensaer a syrfëwr gyflogi tri aelod o staff cymorth. Bellach nid ydynt yn cyflogi un a chredant eu bod yn gweithio'n fwy effeithiol o'r herwydd. Roedd cyflogeion da yn brin ac yn anodd eu cadw, felly buddsoddwyd llawer mewn TGCh. Caiff llythyrau ac adroddiadau eu harddweud gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais, gwneir darluniadau dylunio gan ddefnyddio pecyn dylunio gyda chymorth cyfrifiadur (CAD) a chaiff swyddi eu costio a'u rheoli drwy gyfres gymhleth o daenlenni a chronfeydd data a sefydlir ganddynt eu hunain. Bellach maent yn teimlo bod mwy o reolaeth ganddynt dros y busnes, a bod popeth ar flaenau eu bysedd.

Gallai rhoi gwaith ar gontract allanol fod mor syml â dibynnu ar gwmni cludo penodol i gasglu a dosbarthu nwyddau. Fodd bynnag, nid yw pob diwydiant yn cynnig yr un cyfle i roi gwaith ar gontract allanol nac i ddefnyddio TGCh yn y ffordd hon yn union (ac nid oes gan bob ardal yr un mynediad i wasanaethau ar gontract allanol neu wasanaethau TGCh megis band eang, gwasanaeth ar ôl gwerthu, llinellau cymorth ac ati). Bydd angen i chi ystyried presenoldeb neu absenoldeb gwasanaethau o'r fath a'ch galluoedd eich hun ar gyfer gwneud defnydd effeithiol ohonynt.

Hyd yn oed os ydych yn teimlo nad yw eich syniad yn addas ar gyfer cefnogi clystyrau a rhwydweithio, mae tuedd yn amlwg tuag at y mathau mwy cydweithredol hyn o weithio, yn enwedig ym maes arloesedd, ac felly mae angen i hynny gael ei adlewyrchu yn y rhan fwyaf o ddadansoddiadau STEEP. Dylech o ddifrif ystyried rhoi gwaith ar gontract allanol fel ffynhonnell galluoedd nid yn unig yn ystod cyfnod lansio eich cylch busnes, ond yn y tymor hwy drwy'r cyfnod tyfu. Mae cwmnïau sy'n cael gwaith ar gontract allanol yn aml yn meddu ar wybodaeth arbenigol ac yn darparu gwasanaethau i gleientiaid yn lleol neu'n fyd-eang. Gallant ddefnyddio arbedion maint a defnyddio technolegau newydd a fydd, o ganlyniad, yn cadw prisiau'n isel heb effeithio ar ansawdd. Mewn geiriau eraill, os ydych yn nodi sgiliau neu fylchau o fewn eich busnes efallai y byddai'n ddoeth edrych y tu allan i'r busnes am y sgiliau hynny yn hytrach na'u datblygu yn fewnol.