2.1.1 Astudiaethau achos - syniadau busnes
Ar ôl cyfarfod â'n pedair astudiaeth achos yn y cyflwyniad, byddwn nawr yn darganfod mwy am eu syniadau busnes unigol.
Euan
‘Rwy' am gryfhau busnes ffermio'r teulu a gwneud mwy o incwm drwy ddefnyddio'r siediau a'r tir segur sydd gennym. Mae llawer o fragdai bach yn cael eu sefydlu ac rwy'n credu y byddai cael un ar y fferm yn anarferol ac yn ffordd dda o foderneiddio. Byddai'n unigryw a gallem ddefnyddio llawer o'r adnoddau sydd gennym yn barod ond gallai gymryd amser i sefydlu'r bragdy, prynu'r cyfarpar a dysgu'r dechneg - ond mae hynny'n rhywbeth rwy'n fwy na pharod i'w wneud.'
Gwyneth
'Rwy'n hoffi coginio ac rwy wedi gweithio i bobl eraill yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo ers deg mlynedd. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio'n rhan amser mewn caffi ond dydw i ddim yn teimlo y galla' i fynd nôl i weithio'n llawn amser oherwydd mae angen rhywfaint o hyblygrwydd arna' i ar gyfer y teulu. Rwy' am wneud cynhyrchion gartref y gallaf eu gwerthu i delis a chaffis yn yr ardal ac ar benwythnosau, mewn marchnadoedd ffermwyr a ffeiriau bwyd ychydig ymhellach i ffwrdd.’
Julia
'Rwy'n byw gyda fy rhieni mewn ardal lle mae ein siop leol a'r Swyddfa Bost dan fygythiad o gael eu cau. Byddai hyn yn golygu y byddai'n rhaid i fy nheulu a thrigolion lleol eraill fynd ar daith hir ac anodd er mwyn cyrraedd y Swyddfa Bost agosaf neu brynu nwyddau bob dydd gan fod trafnidiaeth gyhoeddus mor brin. Rwy'n credu y gallai trigolion lleol ddod ynghyd a'u rhedeg fel siop gymunedol a hoffwn i arwain y gwaith o ymchwilio i'r posibilrwydd o wneud hyn.'
Dafydd
Rwyf i a Ffion, fy ngwraig, yn byw gyda'n dau blentyn ar fferm ddefaid y teulu, sy'n 140 erw. Maegennym ni dri o adeiladau cerrig traddodiadol hyfryd ar y fferm ond nid oes eu hangen nhw ar ein busnes ffermio modern. Hoffwn gynhyrchu incwm ychwanegol i'r busnes drwy eu hadfer i'w hen ogoniant a'u gosod fel llety gwyliau.'
Gwenllian
'Rwy'n athrawes rhan-amser. Rwy' wedi creu cysylltiad yn ddiweddar â chorfforaeth ryngwladol leol ac rwy' wedi sylweddoli nad y math traddodiadol o gwrs iaith sydd ei angen arnyn nhw mewn gwirionedd, ond hyfforddiant sgiliau iaith sylfaenol, pwrpasol a briffiau diwylliannol er mwyn eu paratoi ar gyfer teithiau busnes dramor. Mae prinder gwasanaethau ieithyddol o'r math hwn yng nghanolbarth Cymru, felly fy syniad busnes i yw datblygu gwasanaeth iaith pwrpasol sy'n cynnig amrywiaeth o wahanol fathau o gymorth iaith - gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd ar y safle, yn seiliedig ar y diwydiant, y gellir ei ddiweddaru ar aml-lwyfan.’
David
'Fy syniad busnes i yw defnyddio fy mhrofiad blaenorol o wneud grisiau ar gyfer datblygwyr eiddo a'i ddefnyddio er mwyn sefydlu fy nghwmni fy hun sy'n cynllunio ac yn creu grisiau wedi'u teilwra. Byddwn yn defnyddio pren lleol sydd wedi'i gynhyrchu drwy ddulliau cynaliadwy ac yn gweithio o weithdy ar safle arall i ffwrdd o gartref. Rwyf wedi bod yn hunangyflogedig o'r blaen ond y tro hyn rwy'n gwneud hynny fel mater o ddewis, nid anghenraid.'
Os ydych braidd yn ansicr o hyd ynghylch eich syniad busnes, gall fod yn ddefnyddiol i chi ystyried y saith ffynhonnell o arloesedd a nodwyd gan Peter Drucker (1985), y mae ei waith wedi dylanwadu ar ddamcaniaeth ac arfer busnes, entrepreneuriaeth, arloesedd a rheolaeth am fwy na hanner canrif.