5.4 Crynodeb
Yn yr adran hon rydych wedi:
- edrych ar yr heriau ariannol allweddol sy'n wynebu entrepreneuriaid heddiw
- archwilio'r ffyrdd gwahanol niferus o godi arian ac wedi ystyried y rhai mwyaf priodol ar gyfer eich busnes
- deall y gwahaniaeth ym mhob un o'r datganiadau ariannol allweddol sy'n ofynnol gan unrhyw fusnes, y datganiad llif arian parod, y cyfrif elw a cholled, y fantolen a datganiadau'r gyllideb
- edrych ar ddadansoddiad o fantoli'r gyllideb yn seiliedig ar gostau sefydlog ac amrywiol
- gweld sut y gall y datganiadau hyn helpu i reoli risg busnes.
Nawr agorwch yr AGCB (neu'r templed [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) a myfyriwch ar y gweithgareddau a gwblhawyd yn yr adran hon. Adolygwch ganlyniad pob gweithgaredd ac atebwch y cwestiynau yn Adran 4 o'r AGCB. Er y bydd y gweithgareddau hyn yn cymryd peth amser i chi eu cwblhau, maent yn hanfodol wrth gynllunio blwyddyn gyntaf eich busnes. Bydd angen y wybodaeth hon a llawer mwy siŵr o fod ar fanc neu unrhyw ffynhonnell ffurfiol o arian ar gyfer eich busnes.